Anafiadau difrifol i ddyn 24 oed wedi damwain car yng Ngilfach Goch

Mae Heddlu De Cymru yn apelio am wybodaeth wedi damwain ddifrifol yn ystod oriau man y bore ger Gilfach Goch ar gyrion Cwm Rhondda.

Mae'n ymddangos bod car Ford Fiesta Gwyrdd wedi dod oddi ar yr A4093 am 3.38am ddydd Gwener.

Cafodd y gyrrwr, dyn 24 oed, anafiadau difrifol i'w gefn.

Mae'n cael triniaeth yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg ar hyn o bryd.

Roedd y car yn teithio i gyfeiriad Glynogwr ar y pryd.

Cafodd y ffordd ei chau am gyfnod ond mae wedi ail agor erbyn hyn.

Os oes gan unrhyw un wybodaeth fe ddylen nhw gysylltu gyda'r heddlu ar 029 2057 1600 neu Taclo'r Tacle ar 0800 555 111.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.