Snwcer: Pedwar o Gymry yn yr Ail Rownd

  • Cyhoeddwyd

Wedi buddugoliaeth Mark Williams nos Iau mae 'na bedwar o Gymry wedi sicrhau eu lle yn Ail Rownd Pencampwriaeth Snwcer y Byd yn Sheffield.

Ronnie O'Sullivan fydd gwrthwynebwyd nesa Williams gan gychwyn ddydd Sadwrn.

Ond fe fydd Ryan Day yn wynebu Cao Yupeng ddydd Gwener.

Mae'r Ail Rownd yn cael ei chynnal dros dri diwrnod a'r gorau o 25 ffrâm yn ennill.

Mae Williams yn ymwybodol iawn nad ydi o wedi curo O'Sullivan mewn gêm ar y gylchdaith swyddogol am dros 10 mlynedd.

Fe fydd gemau Matthew Stevens a Jamie Jones yn cychwyn ddydd Sul.

Ail Rownd

Dydd Gwener

Ryan Day v Cao Yupeng (2.30pm)

Dydd Sadwrn

Ryan Day v Cao Yupeng (10am)

Mark Williams v Ronnie O'Sullivan (2.30pm)

Ryan Day v Cao Yupeng (7pm)

Dydd Sul

Jamie Jones v Andrew Higginson (10am)

Matthew Stevens v Barry Hawkins (10am)

Mark Williams v Ronnie O'Sullivan (2.30pm)

Jamie Jones v Andrew Higginson (7pm)

Matthew Stevens v Barry Hawkins (7pm)

Dydd Llun

Matthew Stevens v Barry Hawkins (2.30pm)

Jamie Jones v Andrew Higginson (7pm)

Mark Williams v Ronnie O'Sullivan (7pm)