Mackay: 'Dim pwysau ar Gaerdydd'

  • Cyhoeddwyd
Malky MackayFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,
Nid yw Malky Mackay yn teimlo bod pwysau ar ei dîm

Mae rheolwr clwb pêl-droed Caerdydd yn mynnu nad yw ei dîm yn teimlo pwysau cyn y gêm fydd yn penderfynnu os fydd yr Adar Gleision yn mynd ymlaen i'r gemau ail gyfle.

Mae Caerdydd yn teithio i Lundain i wynebu Crystal Palace ddydd Sadwrn gan wybod y bydd pwynt mwy na thebyg yn ddigon i orffen yn y chwech uchaf.

Ond os fydd Caerdydd yn colli a Middlesbrough yn curo Watford - cyn glwb Mackay - yna Middlesbrough fydd yn cipio'r chweched safle.

Dywedodd Mackay: "Fedrwn ni ddim rheoli beth sy'n digwydd yn fanna, felly does dim pwrpas poeni amdano.

"Rydym yn edrych arni fel pob gêm arall, yn enwedig rhai oddi cartref yn ddiweddar.

"Rydym am geisio ennill y gêm, a dyna'r ffordd o roi'r cyfle gorau i ni dwi''n meddwl."

Nerfus

Fe fydd yn brynhawn nerfus i gefnogwyr Caerdydd wedi iddyn nhw weld eu tîm yn diodde' torcalon sawl tro yn y gemau ail gyfle dros y tymhorau diweddar.

Collodd yr Adar Gleision i Reading yn y rownd gynderfynol y llynedd, ac fe gollon nhw yn y rownd derfynol yn Wembley i Blackpool yn 2010.

Methodd Caerdydd â chyrraedd y gemau ail gyfle yn 2009 oherwydd gwahaniaeth goliau, ond y tro yma mae eu gwahaniaeth goliau yn llawer gwell nag un Middlesbrough.

Mae Caerdydd wedi curo Palace ddwywaith y tymor hwn eisoes.

Sgoriodd Peter Whittingham a Kenny Miller wrth i Gaerdydd ennill o 2-0 yn Stadiwm Dinas Caerdydd, ac fe aeth y ddau dîm benben yn rownd gynderfynol Cwpan Carling dros ddau gymal.

Palace enillodd y cymal cyntaf ar eu tomen eu hunain o 1-0, ond Caerdydd aeth i Wembley ar giciau o'r smotyn wedi iddyn nhw ennill o 1-0 yng Nghaerdydd.

Ebrill 27, 2012