Carcharu dau am 114 lladrad
- Cyhoeddwyd

Cafodd dau ddyn eu carcharu am saith mlynedd yr un am 114 o ladradau ar draws Cymru a Lloegr dros gyfnod o 14 mis.
Clywodd Llys y Goron Yr Wyddgrug sut y gwnaeth Krzyszstof Karmaciuk, 35, a Ryszard Elert, 37, ddwyn gwerth £318,000 o arian a thlysau.
Disgrifiodd y Barnwr Niclas Parry yr achos fel un o "droseddu gangiau trefnus a difrifol".
Bu'n clodfori'r cydweithio rhwng chwech o heddluoedd wrth geisio dal y ddau.
Mae'r ddau leidr o Wlad Pŵyl, ac fe fydd y ddau yn cael eu hestraddodi wedi iddyn nhw gael eu rhyddhau o garchar.
Bu'r ddau yn gweithio fel peintwyr ac addurnwyr cyn troi at droseddu wrth i'r gwaith ddirwyn i ben er mwyn gyrru arian i'w teuluoedd yng Ngwlad Pŵyl.
Plediodd y ddau yn euog o gynllwynio i ddwyn; cyfaddefodd Karmaciuk i 110 achos o fwrgleriaeth ac Elert i 67 rhwng Hydref 2010 a Rhagfyr 2011.
Ymosod
Roedd y ddau yn targedu tai llewyrchus yr olwg, ond gadawyd olion bysedd a DNA mewn sawl eiddo.
Clywodd y llys fod y ddau yn gweithio o sir Wiltshire ac wedi dwyn o ardaloedd heddlu Gwent, Dyfed-Powys, Gogledd Cymru, West Mercia a Sir Caer.
Rhwng popeth roedd y ddau wedi dwyn arian ac eiddo gwerth £318,000.
Yn ystod un lladrad fe wnaeth y ddau ymosod ar berchennog y tŷ gan ddangos eu bod yn barod i ddefnyddio trais os oedd angen.
Dywedodd y Barnwr Parry: "Mae'n bosib eich bod wedi ceisio osgoi trais a gwrthdaro, ond y realiti yw bod trais yn bosibilrwydd go iawn ymhob un o'r lladradau."
Credir bod trydydd dyn oedd yn troseddu gyda'r ddau wedi llwyddo i ddianc a ffoi i Wlad Pŵyl y diwrnod canlynol.
Mae ymchwiliad yn parhau i geisio canfod pedwerydd aelod o'r gang.