BBC Cymru Fyw

Snwcer: Diwrnod da i Day

Published
image captionBydd gan Day bedair ffrâm o fantais ar ddechrau'r ail sesiwn ddydd Sadwrn
Cafodd y Cymro Ryan Day ddechrau da i'w gêm ail rownd ym Mhencampwriaeth Snwcer y Byd yn Sheffield.
Y cyntaf i 13 fydd yn mynd i rownd yr wyth olaf, ac ar ddiwedd y sesiwn gyntaf yn erbyn Cao Yupeng o China roedd Day ar y blaen o 6-2.
Roedd y ffrâm gyntaf yn llawn tyndra wrth i Yupeng agor bwlch ar y dechrau, ond daeth Day yn ôl gyda rhediad o 53 i gipio'r ffrâm.
Aeth ymlaen i ennill y ddwy nesaf hefyd, gyda rhediad disglair o 87 i gipio'r drydedd.
Wedi i Yupeng ennill y bedwaredd, daeth Day yn ôl gyda rhediad o 62 i fynd â'r bumed.
Er nad oedd rhediadau uchel yn y fframiau oedd yn weddill, cipiodd Day ddwy ohonyn nhw i'w adael mewn sefyllfa dda cyn yr ail sesiwn o dair rhwng y ddau am 10:00am fore Sadwrn.

Ail Rownd (Sesiwn 1)

Ryan Day 6-2 Cao Yupeng (China)
58-54 (53 Day), 73-58, 91-10 (87), 41-92, 69-7 (62), 54-104, 63-25, 70-18.
Ryan Day v Cao Yupeng ( Sesiwn 2 - 10am)
Mark Williams v Ronnie O'Sullivan (Sesiwn 1 - 2.30pm)
Ryan Day v Cao Yupeng (Sesiwn 3 - 7pm)
Jamie Jones v Andrew Higginson (Sesiwn 1 - 10am)
Matthew Stevens v Barry Hawkins (Sesiwn 1 - 10am)
Mark Williams v Ronnie O'Sullivan (Sesiwn 2 - 2.30pm)
Jamie Jones v Andrew Higginson (Sesiwn 2 - 7pm)
Matthew Stevens v Barry Hawkins (Sesiwn 2 - 7pm)
Matthew Stevens v Barry Hawkins (Sesiwn 3 - 2.30pm)
Jamie Jones v Andrew Higginson (Sesiwn 3 - 7pm)
Mark Williams v Ronnie O'Sullivan (Sesiwn 3 - 7pm)

Straeon perthnasol

  • Snwcer: Mark Williams i herio Ronnie O'Sullivan yn ail rownd Pencampwriaeth y Byd.