BBC Cymru Fyw

Uchafbwynt Uwchgynghrair Rygbi

Published
image copyrightOther
Fe ddaw un o gemau mwya'r tymor yn Uwchgynghrair Rygbi Cymru ddydd Sadwrn wrth i Bontypridd groesawu Llanymddyfri i Heol Sardis.
Byddai buddugoliaeth i Bontypridd yn sicrhau mai nhw fydd yn gorffen y tymor ar frig y tabl.
Ond maen nhw'n gwybod na fydd y dasg yn hawdd. Mae Llanymddyfri yn bedwerydd, ac fe fyddai buddugoliaeth iddyn nhw yn sicrhau lle yn rownd gynderfynol y rowndiau terfynol, a hynny yn lle Pontypridd.
Pe bai Pontypridd yn colli byddai hynny'n gadael Llanelli ar y brig, ac fe allai cyfuniad o gêm gyfartal a phwyntiau bonws weddnewid rhan ucha'r tabl.
Bydd y gic gyntaf ar Heol Sardis am 2:30pm brynhawn Sadwrn.
Ebrill 27, 2012