BBC Cymru Fyw

Abertawe 4-4 Wolves

Published
image copyrightOther
image captionSgoriodd Matt Jarvis ddwy gôl i'r ymwelwyr

Abertawe 4-4 Wolves

Mae Abertawe wedi llwyddo i aros yn yr Uwchgynghrair am dymor arall yn dilyn eu gêm gyfartal gyffrous yn erbyn Wolves yn Stadiwm Liberty ddydd Sadwrn.

Yr Elyrch aeth ar y blaen ar ôl dim ond 46 eiliad o'r ornest gyda gôl gan Andrea Orlandi cyn i Joe Allen ddyblu'r fantais wedi dim ond pedair munud.

Aeth Abertawe dair gôl ar y blaen cyn pen chwarter awr o chwarae pan rwydodd Nathan Dyer ac roedd hi'n debygol y byddai'r llifddorau agor wrth i ymosodwyr Abertawe ddominyddu amddiffynwyr Wolves yn llwyr.

Sgoriodd Steven Fletcher gôl gyntaf yr ymwelwyr ar ôl 28 munud ond ymestynnodd Danny Graham fantais yr Elyrch unwaith eto dair munud yn ddiweddarach.

Cic o'r smotyn

Sgoriodd Matt Jarvis ail gôl Wolves a chweched gôl yr ornest wedi 33 munud.

Yr ymwelwyr oedd y meistri yn yr ail hanner a llwyddodd eu hamddiffyn i ddal yn gadarn wrth i Dave Edwards sgorio eu trydedd gôl wedi 54 munud cyn i Jarvis sgorio ei ail gôl a phedwaredd gôl Wolves ar ôl 69 munud.

Roedd chwaraewyr yr Elyrch yn credu eu bod yn haeddu cic o'r smotyn ym munud ola'r gêm ond bu'n rhaid i Abertawe fod yn hapus gyda'r pwynt sy'n golygu y byddan nhw'n dal i chwarae yn yr Uwchgynghrair y tymor nesaf.

Abertawe: Vorm, Williams, Caulker, Monk. Britton, Orlandi, (Taylor, 46), Sinclair, Dyer, Allen, Sigurdsson, Graham (Moore 82)

Eilyddion: Tremmel, Taylor, Routledge, McEachran, Gower, Lita, Moore

Wolves: De Vries, Stearman, Ward, Berra, Foley, Edwards, Kightly, Henry, Jarvis (Hunt 72), Fletcher (Ebanks-Blake 76), Doyle.

Eilyddion: Ikeme, Johnson, Zubar, Hunt, Milijas , Jonsson, Ebanks-Blake

Tabl Uwchgynghrair Barclays

Ebrill 28, 2012

Straeon perthnasol

  • QPR 3-0 Abertawe