Wrecsam yn ennill ond Casnewydd yn colli

Image copyright Other

Wrecsam 5-1 Braintree

Fe wnaeth Wrecsam baratoi ar gyfer eu gemau ail gyfle yn erbyn Luton drwy guro Braintree 5-1 ar y Cae Ras ddydd Sadwrn.

Sgoriodd Andy Morrell gôl gynta'r Dreigiau wedi 19 munud cyn i Adrian Cieslewicz ddyblu'r fantais ar ôl 42 munud.

Rhwydodd Ben Wright i'r ymwelwyr wedi 52 munud ond sgoriodd Mathias Pogba drydedd gôl Wrecsam saith munud yn ddiweddarach.

Sgoriodd Danny Wright bedwaredd gôl y Dreigiau wedi 88 munud cyn i Neil Ashton selio'r fuddugoliaeth gyda chic o'r smotyn yn y funud olaf.

Clwb Pêl-droed Casnewydd Image copyright Other

Barrow 3-1 Casnewydd

Collodd Casnewydd eu gêm olaf cyn eu hymweliad â Wembley ar gyfer rownd derfynol Tlws yr FA.

Collodd yr Alltudion 3-1 oddi cartref yn erbyn Barrow.

Llwyddodd Casnewydd i aros yn Uwchgynghrair Blue Square Bet am dymor arall yn dilyn eu buddugoliaeth yn erbyn Alfreton yr wythnos diwethaf.

Ond ni fydd rheolwr yr Alltudion, Justin Edinburgh, yn hapus â pherfformiad Casnewydd cyn iddynt herio Caerefrog yn rownd derfynol Tlws yr FA yn Wembley ar Fai 12.

Andy Cook sgoriodd gôl gyntaf y tîm cartref wedi saith munud cyn i Ismail Yakubu unioni'r sgôr gyda pheniad yn dilyn cic rydd gan Andrew Hughes wyth munud yn ddiweddarach.

Ond Barrow oedd y tîm cryfaf yn dilyn yr egwyl a sgoriodd Richie Baker eu hail gôl ar ôl 51 munud cyn i Adam Boyes selio'r fuddugoliaeth ag ergyd nerthol o gornel y cwrt cosbi wedi 69 munud.

TABL UWCHGYNGHRAIR BLUE SQUARE BET
Gemau Gwahaniaeth Goliau Pwyntiau
1. Fleetwood 46 +54 103
2. WRECSAM 46 +52 98
3. Mansfield 46 +39 89
4. Caerefrog 46 +36 83
5. Luton 46 +36 81
-----------------------------------------------------------------------------------------
19. CASNEWYDD 46 -12 47
20. Telford 46 -20 46
21. Hayes 46 -32 41
22. Darlington 46 -26 36
23. Kettering 46 -60 33
24. Caerfaddon 45 -46 31

Ebrill 17 2012