Pontypridd ar frig Uwchgynghrair Rygbi Cymru

Uwchgynghrair Rygbi Cymru Image copyright Other

Pontypridd orffennodd y tymor ar frig Uwchgynghrair Rygbi Cymru yn dilyn eu buddugoliaeth o 20-0 yn erbyn Llanymddyfri yn Hel Sardis ddydd Sadwrn.

Gwyddai Pontypridd na fyddai'r dasg yn hawdd oherwydd roedd Llanymddyfri yn bedwerydd, ac fe fyddai buddugoliaeth i'r ymwelwyr wedi sicrhau lle yn rownd gynderfynol y rowndiau terfynol, a hynny yn lle Pontypridd.

Lockyear sgoriodd unig gais yr hanner cyntaf cyn i Williams lwyddo gyda'r trosiad.

Roedd Pontypridd 7-0 ar y blaen ar yr egwyl.

Gêm ail-gyfle

Ymestynnodd Pontypridd eu mantais pan diriodd Wyatt a llwyddodd Williams unwaith eto gyda'r trosiad.

Ciciodd Williams ddwy gôl gosb gan selio buddugoliaeth gyfforddus i Bontypridd.

Mae'r fuddugoliaeth hon wedi rhoi Pontypridd yn rownd derfynol y gynghrair gan olygu bod yn rhaid i Lanelli ac Aberafan frwydro mewn gêm ail-gyfle er mwyn cyrraedd y rownd derfynol.

TABL UWCHGYNGHRAIR RYGBI PRINCIPALITY
Ch. E. Cyf. Bonws Pwyntiau
1.Pontypridd 26 19 0 15 91
2. Llanelli 26 19 0 13 89
3. Aberafan 26 19 1 10 88
4. Llanymddyfri 26 18 0 11 83
5. Castell-nedd 26 15 1 16 78
6. Cross Keys 26 15 0 13 73
7. Cwins Caerfyrddin 26 14 0 15 71
8. Pen-y-bont 26 12 2 11 63
9. Caerdydd 26 10 2 15 59
10. Abertawe 26 9 1 13 51
11. Casnewydd 26 9 0 11 47
12. Pont-y-pŵl 26 9 1 9 47
13. Bedwas 26 9 0 5 41
14. Tonmawr 26 1 0 6 10

Ebrill 28, 2012