Snwcer: Day yn dal ar y blaen

  • Cyhoeddwyd
Ryan Day
Disgrifiad o’r llun,
Bydd gan Day bedair ffrâm o fantais ar ddechrau'r ail sesiwn ddydd Sadwrn

Mae'r Cymro Ryan Day ar y blaen o 9-7 yn erbyn Cao Yupeng yn dilyn ail sesiwn eu gêm yn ail rownd Pencampwriaeth Snwcer y Byd yn Sheffield.

Y cyntaf i 13 fydd yn mynd i rownd yr wyth olaf, ac mae angen pedair ffrâm arall ar Day pan fydd y drydedd sesiwn yn dechrau am 7pm nos Sadwrn.

Roedd Day ar y blaen o 6-2 ar ddiwedd y sesiwn gyntaf yn erbyn y chwaraewr o China.

Ond cafodd Day ddechrau trychinebus ar ddechrau'r ail sesiwn wrth i Yupeng ennill y tair ffrâm gyntaf gan gynnwys rhediad campus o 125 yn yr ail ffrâm.

Tarodd Day yn ôl gyda rhediad gwych o 112 yn y ffrâm olaf cyn yr egwyl i ymestyn ei fantais i ddwy ffrâm.

Enillodd Yupeng y ffrâm gyntaf ar ôl yr egwyl gyda rhediad o 56 ond enillodd Day y ddwy ffrâm nesaf gyda rhediadau o 51 a 72.

Cipiodd Yupeng ffrâm ola'r sesiwn ond mae Day yn dal mew sefyllfa dda cyn y drydedd sesiwn o dair rhwng y ddau am 7pm nos Sadwrn.

Canlyniadau dydd Sadwrn:

Ail Rownd (Sesiwn 2)

Ryan Day 9-7 Cao Yupeng (China)

58-54 (53 Day), 73-58, 91-10 (87), 41-92, 69-7 (62), 54-104, 63-25, 70-18, 39-72, 0-138 (125), 23-63, 132-7 (112), 57-79 (56), 75-42 (51), 77-39 (72), 44-76

Dydd Sadwrn

Mark Williams v Ronnie O'Sullivan (Sesiwn 1 - 2.30pm)

Ryan Day v Cao Yupeng (Sesiwn 3 - 7pm)

Dydd Sul

Jamie Jones v Andrew Higginson (Sesiwn 1 - 10am)

Matthew Stevens v Barry Hawkins (Sesiwn 1 - 10am)

Mark Williams v Ronnie O'Sullivan (Sesiwn 2 - 2.30pm)

Jamie Jones v Andrew Higginson (Sesiwn 2 - 7pm)

Matthew Stevens v Barry Hawkins (Sesiwn 2 - 7pm)

Dydd Llun

Matthew Stevens v Barry Hawkins (Sesiwn 3 - 2.30pm)

Jamie Jones v Andrew Higginson (Sesiwn 3 - 7pm)

Mark Williams v Ronnie O'Sullivan (Sesiwn 3 - 7pm)