Damwain: Dyn yn yr ysbyty

Mae dyn wedi ei gludo i'r ysbyty mewn hofrennydd ar ôl damwain ffordd yng Ngheredigion.

Fe gafodd y dyn ei ryddhau o'i gar gan ddiffoddwyr tân yn dilyn y ddamwain ar ffordd wledig rhwng Llanfihangel-ar-Arth a Llandysul toc cyn 9.30am ddydd Sadwrn.

Mae'r dyn yn cael triniaeth yn ysbyty Treforys yn Abertawe.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.