BBC Cymru Fyw

Snwcer: O'Sullivan 5-3 Williams

Published
image copyrightGetty Images
image captionMark Williams oedd pencampwr y byd yn 2000 a 2003
Mae'r Cymro Mark Williams ar ei hôl hi o 5-3 yn erbyn Ronnie O'Sullivan ar ôl sesiwn gyntaf eu gêm yn ail rownd Pencampwriaeth Snwcer y Byd yn Sheffield.
Y cyntaf i 13 fydd yn mynd i rownd yr wyth olaf, ac fe fydd yr ail sesiwn yn dechrau am 2.30pm Ddydd Sul.
Williams enillodd ffrâm gynta'r sesiwn gyntaf ond tarodd y Roced yn ôl i unioni'r sgôr gyda rhediadau o 57 a 55 yn yr ail ffrâm.
Aeth O'Sullivan ar y blaen am y tro cyntaf pan enillodd y drydedd ffrâm ond cipiodd Williams y ffrâm olaf cyn yr egwyl gyda rhediad o 64 wedi i O'Sullivan gyflawni rhediad o 56.
Aeth Williams ar y blaen unwaith eto gan ennill y bumed ffrâm ond cipiodd O'Sullivan tair ffrâm o'r bron i agor bwlch o ddwy ffrâm erbyn diwedd y sesiwn gyntaf.

Ryan Day

Roedd y Cymro Ryan Day ar y blaen o 9-7 yn erbyn Cao Yupeng yn dilyn ail sesiwn eu gêm yn ail rownd Pencampwriaeth Snwcer y Byd yn Sheffield.
Roedd Day ar y blaen o 6-2 ar ddiwedd y sesiwn gyntaf yn erbyn y chwaraewr o China.
Ond cafodd Day ddechrau trychinebus ar ddechrau'r ail sesiwn wrth i Yupeng ennill y tair ffrâm gyntaf gan gynnwys rhediad campus o 125 yn yr ail ffrâm.
Tarodd Day yn ôl gyda rhediad gwych o 112 yn y ffrâm olaf cyn yr egwyl i ymestyn ei fantais i ddwy ffrâm.
Enillodd Yupeng y ffrâm gyntaf ar ôl yr egwyl gyda rhediad o 56 ond enillodd Day y ddwy ffrâm nesaf gyda rhediadau o 51 a 72.
Cipiodd Yupeng ffrâm ola'r sesiwn ond mae Day yn dal mew sefyllfa dda cyn y drydedd sesiwn o dair rhwng y ddau am 7pm nos Sadwrn.
Canlyniadau dydd Sadwrn:
Ail Rownd (Sesiwn 1)
Mark Williams 3-5 Ronnie O'Sullivan (Lloegr)
72-48, 9-116 (57, 53), 4-95 (95), 64-56 (56, 64), 82-55, 28-66, 0-86, 45-68.
Ail Rownd (Sesiwn 2)
Ryan Day 6-2 Cao Yupeng (China)
58-54 (53 Day), 73-58, 91-10 (87), 41-92, 69-7 (62), 54-104, 63-25, 70-18, 39-72, 0-138 (125), 23-63, 132-7 (112), 57-79 (56), 75-42 (51), 77-39 (72), 44-76
Ryan Day v Cao Yupeng (Sesiwn 3 - 7pm)
Jamie Jones v Andrew Higginson (Sesiwn 1 - 10am)
Matthew Stevens v Barry Hawkins (Sesiwn 1 - 10am)
Mark Williams v Ronnie O'Sullivan (Sesiwn 2 - 2.30pm)
Jamie Jones v Andrew Higginson (Sesiwn 2 - 7pm)
Matthew Stevens v Barry Hawkins (Sesiwn 2 - 7pm)
Matthew Stevens v Barry Hawkins (Sesiwn 3 - 2.30pm)
Jamie Jones v Andrew Higginson (Sesiwn 3 - 7pm)
Mark Williams v Ronnie O'Sullivan (Sesiwn 3 - 7pm)

Straeon perthnasol

  • Snwcer: Day yn dal ar y blaen