Snwcer: Day yn rownd yr wyth olaf
- Cyhoeddwyd

Mae'r Cymro Ryan Day wedi cyrraedd rownd yr wyth olaf ym Mhencampwriaeth Snwcer y Byd yn Sheffield wedi iddo guro Cao Yupeng o China 13-7 nos Sadwrn.
Bydd Day yn chwarae yn erbyn naill ai Matthew Stevens o Gymru neu Barry Hawkins o Loegr.
Roedd Day ar y blaen o 9-7 yn erbyn Yupeng yn dilyn ail sesiwn eu gêm yn Theatr y Crwsibl.
Y cyntaf i 13 fyddai'n yn mynd i rownd yr wyth olaf, ac roedd angen pedair ffrâm arall ar Day pan ddechreuodd y drydedd sesiwn nos Sadwrn.
Chwaraeodd Day yn wych ac roedd yr ornest ar ben cyn yr egwyl.
Enillodd Day y ffrâm gyntaf gyda rhediad arbennig o 113 a chipiodd yr ail ffrâm gyda rhediad o 53.
Erbyn hyn roedd y Cymro'n chwarae'n wych a daeth y gêm i ben yn dilyn dau rediad ysblennydd o 87 a 119 yn y ddwy ffrâm nesaf.
Canlyniadau dydd Sadwrn:
Ail Rownd (Sesiwn 2)
Ryan Day 13-7 Cao Yupeng (China)
58-54 (53 Day), 73-58, 91-10 (87), 41-92, 69-7 (62), 54-104, 63-25, 70-18, 39-72, 0-138 (125), 23-63, 132-7 (112), 57-79 (56), 75-42 (51), 77-39 (72), 44-76, 116-1 (113), 85-36 (53), 123-1 (87), 119-0 (119)
Ail Rownd (Sesiwn 1)
Mark Williams 3-5 Ronnie O'Sullivan (Lloegr)
72-48, 9-116 (57, 53), 4-95 (95), 64-56 (56, 64), 82-55, 28-66, 0-86, 45-68.
Dydd Sul
Jamie Jones v Andrew Higginson (Sesiwn 1 - 10am)
Matthew Stevens v Barry Hawkins (Sesiwn 1 - 10am)
Mark Williams 3-5 Ronnie O'Sullivan (Sesiwn 2 - 2.30pm)
Jamie Jones v Andrew Higginson (Sesiwn 2 - 7pm)
Matthew Stevens v Barry Hawkins (Sesiwn 2 - 7pm)
Dydd Llun
Matthew Stevens v Barry Hawkins (Sesiwn 3 - 2.30pm)
Jamie Jones v Andrew Higginson (Sesiwn 3 - 7pm)
Mark Williams v Ronnie O'Sullivan (Sesiwn 3 - 7pm)
Straeon perthnasol
- 28 Ebrill 2012
- 27 Ebrill 2012
- 26 Ebrill 2012
- 25 Ebrill 2012
- 25 Ebrill 2012
- 23 Ebrill 2012
- 23 Ebrill 2012
- 22 Ebrill 2012
- 21 Ebrill 2012
- 20 Ebrill 2012