Morgannwg ar waelod y tabl

Mae Morgannwg ar waelod tabl ail adran y bencampwriaeth wedi i'r chwaraewyr orfod rhoi'r gorau i'r gêm rhwng Morgannwg a Chaerloyw heb fowlio'r un bêl.

Hwn oedd y tro cyntaf i law achosi gêm bencampwriaeth gael ei ohirio heb yr un bêl gael ei bowlio ym Mryste er mis Mehefin 1985.

Mae Morgannwg wedi cael dechrau trychinebus yn y bencampwriaeth gan golli i Swydd Derby, Swydd Caerlŷr a Swydd Hampshire yn eu tair gêm gyntaf o'r tymor.

Morgannwg v Sir Gaerloyw (Sgôr terfynol)

Rhoi'r gorau i'r gêm heb unrhyw chwarae.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.