Snwcer: Dechrau cymysg i Jones a Stevens
- Cyhoeddwyd

Cafodd Matthew Stevens a Jamie Jones dechrau cymysg i'w gemau yn ail rownd Pencampwriaeth y Byd yn Sheffield fore Sul.
Ar ddiwedd y sesiwn gyntaf mae Stevens ar ei hôl hi o 3-5 yn erbyn Barry Hawkins o Loegr ac mae Jones yn gyfartal ag Andrew Higginson o Loegr.
Cafodd y Cymro o Gaerfyrddin - a gollodd i Mark Williams yn y rownd derfynol yn 2000, ac i Shaun Murphy yn 2005 - ddechrau gwael gan golli'r tair ffrâm gyntaf.
Ond tarodd Stevens yn ôl i ennill y tair ffrâm nesaf gan gynnwys rhediad o 85 yn y bedwaredd ffrâm a rhediad campus o 101 yn y chweched ffrâm.
Er hynny Hawkins enillodd ddwy ffrâm ola'r sesiwn gan gynnwys rhediad o 65 yn y ffrâm olaf i ymestyn ei fantais i ddwy ffrâm.
Jamie Jones
Dim ond dau rediad dros yr hanner cant gyflawnodd Jamie Jones ac Andrew Higginson yn sesiwn gyntaf eu gornest fore Sul.
Dechreuodd y Cymro 24 oed o Gastell-nedd yn dda gan gipio'r ddwy ffrâm gyntaf ond tarodd Higginson yn ôl gan ennill pedair ffrâm o'r bron.
Ond llwyddodd Jones i gipio dwy ffrâm ola'r sesiwn gan gynnwys rhediad o 72 yn y ffrâm olaf i unioni'r sgôr.
Y cyntaf i 13 fyddai'n yn mynd i rownd yr wyth olaf, ac fe fydd ail sesiwn y ddwy gêm yn dechrau am 7pm nos Sul.
Canlyniadau dydd Sul:
Ail Rownd (Sesiwn 1)
Jamie Jones 4-4 Andrew Higginson (Lloegr)
83-21, 63-33, 41-78, 0-65, 25-69 (54), 44-76, 63-62, 100-24 (72)
Matthew Stevens 3-5 Barry Hawkins (Lloegr)
59-66 (59, 59), 0-86 (69), 4-75 (64), 85-0 (85), 74-0, 101-0 (101), 59-71, 14-72 (65)
Dydd Sul
Mark Williams 3-5 Ronnie O'Sullivan (Sesiwn 2 - 2.30pm)
Jamie Jones v Andrew Higginson (Sesiwn 2 - 7pm)
Matthew Stevens v Barry Hawkins (Sesiwn 2 - 7pm)
Dydd Llun
Matthew Stevens v Barry Hawkins (Sesiwn 3 - 2.30pm)
Jamie Jones v Andrew Higginson (Sesiwn 3 - 7pm)
Mark Williams v Ronnie O'Sullivan (Sesiwn 3 - 7pm)
Straeon perthnasol
- 29 Ebrill 2012
- 28 Ebrill 2012
- 27 Ebrill 2012
- 26 Ebrill 2012
- 25 Ebrill 2012
- 25 Ebrill 2012
- 23 Ebrill 2012
- 23 Ebrill 2012
- 22 Ebrill 2012
- 21 Ebrill 2012
- 20 Ebrill 2012