Heddlu'r De yn enwi'r dyn oedrannus gafodd ei lofruddio

  • Cyhoeddwyd

Mae Heddlu'r De wedi cyhoeddi enw'r dyn 68 oed fu farw wedi iddo gael ei drywanu yng nghyntedd ei dŷ fore Sadwrn.

Cafodd Peter Lewis oedd ag anawsterau dysgu, ei drywanu unwaith yn ei stumog yn ôl yr heddlu.

Bu farw Mr Lewis, gafodd ei ddisgrifio fel "oedolyn oedd yn agored i niwed gydag anawsterau dysgu", yng nghyntedd ei gartref yn Ffordd Claude, Y Rhath, Caerdydd.

Dywedodd yr heddlu fod y llofruddiaeth yn "ddirmygus" ac nad oedd rheswm amlwg am y llofruddiaeth.

'Gweithio bob awr o'r dydd'

Cafodd Mr Lewis ei ddisgrifio fel dyn uchel ei barch.

Dywedodd yr heddlu yn ystod cynhadledd i'r wasg gafodd ei gynnal ddydd Sul, eu bod yn dal am holi dyn gafodd ei weld yn Stryd Oakfield yn dilyn y digwyddiad yn Ffordd Claude tua 2.45am ddydd Sadwrn.

Dywedodd y Ditectif Uwcharolygydd Stuart McKenzie, sy'n arwain yr ymchwiliad, fod ei dîm yn gweithio bob awr o'r dydd.

"Rwy'n annog aelodau'r cyhoedd i'n helpu ynghylch yr achos hwn," ychwanegodd Uwcharolygydd McKenzie.

Mae'r heddlu yn chwilio am ddyn gafodd ei weld yn Stryd Oakfield yn dilyn y digwyddiad yn Ffordd Claude tua 2.45am ddydd Sadwrn.

Disgrifir y dyn fel dyn gwyn yn gwisgo top lliw golau â hwd iddo gafodd ei weld yn rhedeg i Heol Casnewydd.

Mae'r heddlu yn apelio am wybodaeth gan unrhyw un a welodd neu clywodd unrhyw beth amheus yn ardal Ffordd Claude neu Stryd Oakfield rhwng 1am a 3am fore Sadwrn.

Mae ystafell ymchwilio wedi'i sefydlu yng ngorsaf Heddlu Canolog Caerdydd.

Dylai unrhywun â gwybodaeth gysylltu â Gorsaf Heddlu Canolog Caerdydd ar 02920 571530 neu ffonio Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555 111.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol