Snwcer: Matthew Stevens a Jamie Jones

Matthew Stevens Image copyright PA
Image caption Matthew Stevens yn gobeithio adeiladu ar ei rediad yn y sesiwn olaf

Roedd 'na ddau o chwaraewyr Snwcer o Gymru yn brwydro i ennill yr Ail Rownd ym Mhencampwriaeth Snwcer y Byd yn Sheffield nos Sul.

Roedd Matthew Stevens ar ei hôl hi o 5-3 yn erbyn Barry Hawkins wedi'r sesiwn gyntaf, ond wedi chwarae celfydd a rhediadau uchel llwyddodd yr ail sesiwn i orffen yn gyfartal 8-8.

Er bod Hawkins wedi arwain am gyfnodau cafodd Stevens rediadau o 101, 122 a 123.

Taniodd rediad o 80 yn y ffrâm olaf i sicrhau eu bod yn gyfartal cyn y drydedd sesiwn ddydd Llun.

Y cyntaf i 13 ffrâm fydd yn mynd ymlaen.

Fe fydd yr enillydd wedi'r sesiwn brynhawn Llun yn wynebu'r Cymro Ryan Day yn y chwarteri ddydd Mawrth.

Jamie Jones

Image copyright PA
Image caption Tair ffrâm yn unig sydd gan Jones i'w hennill er mwyn cyrraedd y chwarteri

Cymro arall sy'n gobeithio cyrraedd y chwarteri yw Jamie Jones o Gastell-nedd.

Fe wnaeth Jones, sy'n chwarae yn y bencampwriaeth am y tro cyntaf erioed, lwyddo i sicrhau sgôr o 10-6 ar ddiwedd yr ail sesiwn yn erbyn Andrew Higginson.

Wedi'r sesiwn gyntaf, roedd y chwaraewr wnaeth guro'r cyn-bencampwr Shaun Murphy yn y rownd gyntaf, yn gyfartal.

Ond cafodd rediadau o 95 a 101 er mwyn bod ar y blaen o bedair ffrâm ar ddechrau'r drydedd sesiwn.

Fe fydd yr enillydd yn wynebu unai Judd Trump neu Ali Carter yn y rownd nesaf.

Bydd Mark Williams hefyd yn cwblhau ei rownd yn erbyn Ronnie O'Sullivan ddydd Llun, O'Sullivan ar y blaen o 11-5.

Dydd Llun

Matthew Stevens v Barry Hawkins (Sesiwn 3 - 2.30pm)

Jamie Jones v Andrew Higginson (Sesiwn 3 - 7pm)

Mark Williams v Ronnie O'Sullivan (Sesiwn 3 - 7pm)

Straeon perthnasol