Y tywydd garw yn achosi problemau i deithwyr
- Cyhoeddwyd

Mae tywydd garw ers 24 awr wedi ac yn parhau i achosi problemau i deithwyr.
Mae 'na rybuddion am lifogydd posib ac mae peirianwyr yn parhau i ailgysylltu 1,200 o gartrefi wedi toriad trydan.
Dywedodd First Great Western fod trenau rhwng Abertawe a Llundain Paddington hyd at 50 munud yn hwyr.
Roedd llai o drenau'n stopio yng Nghaerdydd a Chasnewydd ac nid oedd trenau'n stopio ym Mryste Parkway a Swindon oherwydd llifogydd.
Mae'r cwmni wedi dweud y dylai teithwyr ofyn am gyngor o flaen llaw.
Yn ôl Western Power, roedd dros 50 o namau dros y penwythnos wedi effeithio ar y rhwydwaith oedd yn rheoli cyflenwadau i gartrefi.
Ar un adeg roedd hyn yn effeithio ar 5,000 o gartrefi.
60 mya
Fe gollodd cartrefi yn Abertawe a Chaerdydd eu trydan dros y penwythnos oherwydd gwyntoedd cryfion dros 60 milltir yr awr.
Cafodd y cyflenwadau i gyd eu hadfer erbyn dydd Llun.
Bu difrod i rai adeiladau yn y de, gan gynnwys Ysgol Gynradd Y Wern yn Llanisien.
Fe fydd yr ysgol ar gau ddydd Llun oherwydd difrod i do'r adeilad.
Mae Llyfrgell y Bont-faen wedi cau am fod coeden wedi glanio ar y to ac mae angen ei symud ac adnewyddu'r to.
Gyda'r rhagolygon am fwy o dywydd gwael, mae 'na adroddiadau bod coed wedi syrthio ac yn achosi problemau ar y ffyrdd yn ogystal â llifogydd.
Mae 'na adroddiadau bod coed wedi syrthio ar ffyrdd ym Mhowys, Merthyr Tudful, Casnewydd a Bro Morgannwg.
Mae'r A470 wedi cau i'r ddau gyfeiriad oherwydd bod nifer o goed wedi syrthio rhwng yr A465 Ffordd Blaenau'r Cymoedd a'4r A4059 yn Nant-ddu ac mae'r A472 wedi cau i'r ddau gyfeiriad ym Mhont-y-Pwl ar ôl i goeden ddisgyn rhwng yr A4043 a A467 Ffordd Hafod-Yr-Ynys Road.
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru wedi dweud eu bod wedi eu galw i "nifer" o achosion o lifogydd dros nos nos Sul a bore Llun wrth i gartrefi ddiodde' llifogydd.
Roedd 'na achosion ar Lannau Dyfrdwy gan gynnwys Cei Conna, Yr Wyddgrug, Treffynnon a'r Rhyl.
Gwasgedd isel
Dros y penwythnos cafodd Cyngor Caerdydd eu galw i 57 achos o goed wedi syrthio wrth i'r gwyntoedd gyrraedd 63 milltir yr awr yn Aberdaron a 66 milltir yr awr yn Y Mwmbwls.
"Roedd hi'n dywydd stormus ddydd Sul - oherwydd gwasgedd isel dwys wedi lledu o gyfeiriad y Costa del Sol yn Sbaen," meddai Yvonne Evans, cyflwynydd tywydd a thraffig BBC Radio Cymru.
"Nid yw hyn yn gyffredin yr amser yma o'r flwyddyn gan fod gwasgedd isel dwys sydd yn effeithio ar ein tywydd fel arfer yn symud o gyfeiriad Mor Iwerydd.
"Fydd hi'n sych ar y cyfan yn y gogledd ddydd Llun ond mae ffrynt yn dod a glaw trwm i ardaloedd yn y de a'r canolbarth.
'Yn wyntog'
"Mae'n wyntog, gyda'r gwynt yn chwythu o gyfeiriad y dwyrain ac mae gwyntoedd cryfion yn benna ar hyd glannau'r de."
Dywedodd hefyd fod Y Swyddfa Dywydd wedi cyflwyno rhag-rybudd o law trwm i siroedd y de, Ceredigion a Phowys a allai achosi problemau ar y ffyrdd a llifogydd.
"O nos Fawrth ymlaen fe fydd y gwynt yn ysgafnach a bydd cyfnodau o law ddydd Mercher a dydd Iau, glaw mân ar y cyfan ond fe ddylai fod yn sychach ddydd Gwener ac yn dwymach na'r hyn mae wedi bod yn ddiweddar."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Ebrill 2012
- Cyhoeddwyd25 Ebrill 2012
- Cyhoeddwyd4 Ebrill 2012
- Cyhoeddwyd4 Ebrill 2012