MI6: 'Gwenwyno neu fygu yn debygol'

  • Cyhoeddwyd
Gareth Williams
Disgrifiad o’r llun,
Cafwyd hyd i gorff Mr Williams mewn bag chwaraeon yn ei fflat

Clywodd cwest i farwolaeth cyn-swyddog gyda'r gwasanaethau cudd, mai gwenwyno neu fygu yw'r "achosion mwyaf tebygol" am ei farwolaeth.

Cafwyd hyd i gorff noeth Gareth Williams, 31 oed o Ynys Môn, mewn bag chwaraeon mewn bath yn ei fflat yn Llundain ym mis Awst 2010.

Dywedodd y patholegydd Benjamin Swift wrth y cwest fod Mr Williams wedi cael ei ladd naill ai trwy fygu neu drwy wenwyn a ddiflannodd o'i system wrth i'w gorff bydru.

Dywedodd Dr Swift bod ei archwiliad post mortem wedi ei rwystro rhywfaint gan wres yn y bag gan fod rheiddiaduron ei fflat wedi eu troi yn uchel - roedd hynny'n ddirgelwch gan ei bod hi'n ganol haf ar y pryd.

'Dim anafiadau'

Canlyniad yr ymchwiliad post mortem ar Awst 25, 2010, deuddydd wedi i gorff Mr Williams gael ei ddarganfod, oedd nad oedd modd canfod union achos y farwolaeth.

Ond wrth gael ei holi yn Llys Crwner Westminster ddydd Llun, dywedodd Dr Swift mai gwenwyno neu fygu oedd achosion "tebygol yn hytrach na phosib" y farwolaeth.

Gofynnodd Anthony O'Toole ar ran teulu Mr Williams os oedd achosion posib eraill am y farwolaeth.

Atebodd Dr Swift: "Fyddwn i byth yn dweud 'byth', ond dyna'r ddau achos mwyaf tebygol."

Doedd dim anafiadau i awgrymu bod Mr Williams wedi ceisio cael ei hun allan o'r bag, ychwanegodd.

Ond doedd dim olion o dabledi yn ei system, a doedd dim cleisio fyddai'n awgrymu ei fod wedi cael ei dagu.

Carbon deuocsid

Daeth tystiolaeth gan ddau batholegydd arall i'r cwest, a dywedodd un ohonyn nhw - Dr Richard Shepherd - ei bod hi'n "fwy tebygol bod Mr Williams yn fyw nag yn farw pan aeth i mewn i'r bag".

Fodd bynnag doedd dim tystiolaeth bod ei gorff wedi cael ei wthio i mewn i'r bag, a phetai ei gorff wedi cael ei roi yn y bag naill pan oedd yn fyw neu yn syth wedi iddo farw, yna fe fyddai disgwyl marciau ar ei gorff i gadarnhau hynny.

Yn ôl y trydydd patholegydd, Dr Ian Calder, fe fyddai'r lefel o garbon deuocsid yn y bag wedi bod yn wenwynig i Mr Williams o fewn dau neu dri munud petai wedi bod yn fyw pan aeth i mewn i'r bag.

"Byddai wedi bod mewn sefyllfa o golli ymwybyddiaeth ac o fethu ag ymateb i gael ei hun allan o'r amgylchiadau dan sylw," meddai Dr Calder.

Fe fyddai hynny'n eglurhad rhesymol am yr hyn ddigwyddodd i Mr Williams, meddai'r patholegydd, gan ychwanegu: "Mae hynny'n bosibilrwydd tebygol o ystyried ein bod yn son am berson iach heb ddifrod, a chyn belled ag y gwyddom dim cyffuriau, dim trawma a dim clefyd naturiol."