Apêl heddlu wedi ymosodiad rhyw

Ymosodiad Trebiwt Image copyright Other
Image caption Mae'r heddlu wedi cyhoeddi'r llun yma o'r dyn y maen nhw am ei holi

Mae'r heddlu yng Nghaerdydd wedi cyhoeddi llun o ddyn y maen nhw am ei holi mewn cysylltiad ag ymosodiad rhyw yn ardal Trebiwt.

Roedd menyw 43 oed yn cerdded ar hyd Stryd Biwt tua 6:20am fore Sul, Ebrill 22, cyn yr ymosodiad rhywiol a chorfforol mewn isffordd.

Mae'r heddlu yn chwilio am ddyn â llygaid glas, gwallt tywyll cyrliog a chroen lliw haul.

Mae ganddo gorff cadarn, ac roedd yn gwisgo siaced 'puffa' gydag ymyl ffwr ar y cwfl.

Y gred yw ei fod yn ei 20au hwyr neu 30au ac yn siarad ag acen Twrci neu Wlad Groeg.

Mae'n bosib ei fod wedi bod yn Heol Eglwys Fair cyn yr ymosodiad ac o bosib wedi siarad â nifer o bobl.

'Brawychus'

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Noel Harris: "Mae ymchwiliad eang wedi bod digwydd ers i ni glywed am hyn ond rydym nawr yn apelio am gymorth y cyhoedd.

"Roedd hwn yn brofiad brawychus i'r fenyw sydd, fel y gallwch ddychmygu, wedi cael ysgytwad.

"Mae hi wedi cael cynnig cefnogaeth ac fe fydd hynny'n parhau."

Mae'r heddlu yn gofyn i unrhyw un â gwybodaeth am y digwyddiad neu'r dyn yn y llun camera cylch cyfyng i gysylltu gyda'r heddlu yn y Tyllgoed ar 029 20 527248.

Gall pobl hefyd ffonio Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555111.