Hyrddio Jac Codi Baw at archfarchnad
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu'n ymchwilio wedi i Jac Codi Baw gafodd ei ddwyn gael ei hyrddio at archfarchnad.
Roedd lladron yn ceisio dwyn o archfarchnad CK yng Nghastell Newydd Emlyn yn oriau mân ddydd Llun.
Cafodd yr heddlu wybod am 3am.
"Dylai unrhyw un welodd Jac Codi Baw neu fwy nag un yn cael eu gyrru drwy'r dre' neu unrhyw beth amheus ffonio 101," meddai'r Ditectif Arolygydd Mark James.
"Neu fe all unrhyw un ffonio Taclo'r Tacle ar 0800 555111."
'Amharu'
Dywedodd rheolwr gyfarwyddwr yr archfarchnad, Christopher Kiley, fod y cwmni wedi bod yno ers 20 mlynedd.
"Mae hyn yn amharu'n fawr arnon ni ond mae'r cwsmeriaid yn ein cefnogi ac rydyn ni'n gobeithio tacluso cyn gynted â phosib."
Ni chafodd unrhywbeth ei ddwyn, meddai.
Y gred yw bod y lladron wedi dwyn Jac Codi Baw o safle cyfagos ond ei fod yn brin o danwydd.
Wedyn cafodd Jac Codi Baw arall ei ddwyn o siop crefftau'r cartref yr ochor draw i'r archfarchnad.