Llys: 'Tagu â chordyn teledu'
- Cyhoeddwyd

Mae dyn, gafwyd yn euog o ladd o'r blaen, wedi dweud wrth lys sut y tagodd ei gymydog â chordyn teledu wedi iddo golli ei dymer.
Yn Llys y Goron Casnewydd mae David Cook, 65 oed, wedi gwadu llofruddio Leonard Hill, 64 oed, ond wedi pledio'n euog i gyhuddiad o ddynladdiad.
Clywodd y llys fod Mr Cook wedi cael dedfryd oes yn 1988 wedi iddo ladd athrawes ysgol Sul.
Yn 2009 fe gafodd ei ryddhau ei ryddhau ar drwydded cyn byw mewn byngalo ger fflat Mr Hill yn Rhymni ym Mawrth 2011.
Dywedodd y diffynnydd fod ei gymydog wedi cynnig gweithred rywiol a'i fod wedi colli ei dymer cyn chwilio am lety gwely a brecwast.
Gwahodd
Ym Mehefin, pan aeth yn ôl i'r fflat, honnodd fod Mr Hill wedi ymddiheuro ac wedi ei wahodd i gael coffi.
Dywedodd Mr Cook iddo golli ei dymer unwaith eto adeg ail gynnig rhywiol Mr Hill.
Pwniodd e i'r llawr.
Roedd yn credu ei fod wedi ei gicio, meddai, gan fod ei goes yn brifo.
"Roeddwn i'n grac iawn ... wedyn fe laddes i fe."
Ar ôl y lladd, meddai, aeth i mewn i dŷ Mr Hill, dwyn £40 o'i waled a threulio'r noson yno cyn mynd yn ôl i'w fflat gydag ychydig o DVDs, bara a chaws.
12 niwrnod
Clywodd y llys iddo ildio ei hun 12 niwrnod wedi'r drosedd.
Pan ofynnwyd iddo a oedd yn difaru atebodd: "Erbyn hyn, odw.
"Ddylen i ddim fod wedi gwneud beth wnes i."
Mae'r erlyniad wedi honni mai ei reswm am ladd oedd ei ddyledion.
Clywodd y llys ei fod wedi tagu'r athrawes ysgol Sul, Beryl Maynard, yn 1987.
Roedd yn euog o lofruddio o'r blaen, meddai'r barnwr, ond nid oedd hyn yn golygu ei fod yn euog o'r drosedd y tro hwn.
Mae'r achos yn parhau.