Taylor yn amddiffyn penderfyniad i enwi Ched Evans yn nhîm y flwyddyn Adran Un.

  • Cyhoeddwyd
Ched Evans yn cyrraedd Llys y Goron CaernarfonFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,
Cafodd Ched Evans garchar am bum mlynedd am dreisio merch 19 oed

Mae deiseb ar-lein wedi ei lansio er mwyn tynnu enw Ched Evans o "restr anrhydeddau".

Roedd blaenwr 23 oed Sheffield United a Chymru wedi ei gynnwys yn Nhîm y Flwyddyn Adran Un.

Yn Llys y Goron Caernarfon cafodd Evans ei garcharu am bum mlynedd ar ôl bod yn euog o dreisio merch 19 oed mewn gwesty yn Rhuddlan ym mis Mai 2011.

Dywedodd yr ymgyrchydd, Leo Hardt, fod cynnwys ei enw'n anfon neges "ofidus iawn".

Yr wythnos ddiwetha' amddiffynnodd Prif Weithredwr Cymdeithas y Chwaraewyr Proffesiynol, Gordon Taylor, y penderfyniad i gynnwys enw'r blaenwr.

'Gallu'

Cafodd y bleidlais ei chynnal ymhlith pêl-droedwyr fis Mawrth.

"Barn am bêl-droed oedd hyn gan ei gyd-chwaraewyr nid barn foesol," meddai Taylor.

"Mae'r bleidlais dim ond ar sail gallu i chware pêl-droed."

Dywedodd bod pawb wedi eu hysgwyd gan y ddedfryd ond na fyddai neb yn gwybod a fyddai hynny wedi cael effaith ar y bleidlais.

Fe wnaeth y chwaraewr rhyngwladol sgorio 35 gôl mewn 42 gêm i Sheffield United y tymor yma.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol