Hofrennydd yn cludo dyn i'r ysbyty
- Cyhoeddwyd

Cafodd dyn 57 oed ei gludo i'r ysbyty gan hofrennydd pan aeth yn sâl ar gwch pysgota.
Roedd y cwch wedi cael ei llogi o Landudno.
Cafodd Gwylwyr y Glannau eu galw tua 1:30pm ddydd Llun gan gapten y Conwy Star.
Galwyd hofrennydd o ganolfan yr Awyrlu yn y Fali, ac fe gafodd y dyn ei gludo i Ysbyty Gwynedd ym Mangor.
Dywedodd llefarydd ar ran Gwylwyr y Glannau bod y cwch yn agos i Ben y Gogarth yn Llandudno, bod y dyn sâl yn aelod o'r criw ac y deellir bod ganddo hanes o bwysau gwaed uchel.