Apêl newydd wedi llofruddiaeth

Llywelyn Thomas Image copyright Other
Image caption Fe fydd llofruddiaeth Llywelyn Thomas yn cael sylw ar raglen Crimewatch

Mae mab ffermwr o Gymru, a gafodd ei lofruddio yn ystod lladrad honedig yn ei gartre', wedi gwneud apêl o'r newydd am wybodaeth.

Cafodd Llywelyn Thomas, 76 oed ac yn wreiddiol o Sain Ffagan ger Caerdydd, ei ganfod yn farw yn ei gartre' yn Chittering, Sir Gaergrawnt, ar Ragfyr 18 2011.

Mae'r heddlu yn credu i Mr Thomas gael ei ladd wrth i'r troseddwyr geisio lladrata o'i dŷ rhwng 9.30pm a 10pm ar Ragfyr 17.

Credir ei fod wedi bod yn gwylio rhaglen Strictly Come Dancing y BBC cyn ateb y drws.

Bu farw o anafiadau i'w wyneb a'i ben.

Roedd tair oriawr a waled ar goll o'i gartre', a chafodd car Rover arian Mr Thomas, gyda'r rhif cofrestru BJ51 CJV, ei ddwyn a'i adael ym mhentref Milton.

Mae swyddogion yn awyddus yn benodol i wybod ble aeth y cerbyd wedi'r digwyddiad.

Roedd yna nam peirianyddol ar y car, a doedd dim modd ei yrru'n gyflym, meddai'r heddlu.

'Hen ddyn tyner'

Wrth siarad ar raglen Crimewatch y BBC, dywedodd ei fab Richard Thomas, "y dylai pwy bynnag sy'n agos at y bobl yma weld beth mae eu mab, eu merch, eu tad, eu brawd, neu eu ffrind wedi'i wneud".

"Falle'u bod nhw wedi gwneud hyn o'r blaen, ac fe allan nhw ei wneud eto.

"Os nad yw'r un o'r pethau hynny'n wir, yna mae angen iddyn nhw weld beth wnaethon nhw i hen ddyn tyner."

Mae ditectifs sy'n ymchwilio i'r llofruddiaeth wedi cynnig gwobr o £50,000 am wybodaeth.

Dim atebion

Mae'r heddlu'n credu y gallai'r tŷ fod wedi'i dargedu oherwydd ei fod yn "edrych fel plasty" a'u bod wedi'u siomi fod cyn lleied o eiddo tu mewn.

Er gwaetha'r sylw i'r achos, does dim atebion wedi'u canfod hyd yma.

Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd George Barr, o Heddlu Sir Gaergrawnt, ei fod yn gobeithio y byddai'r wobr yn ysgogi rhywun sydd â gwybodaeth i gysylltu â'r heddlu.

Cafodd Mr Thomas ei eni ar gyrion Caerdydd ac roedd yn ffermio yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr cyn symud i Loegr 12 mlynedd yn ôl.

Roedd yn ŵr gweddw gydag un mab.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â'r heddlu ar 101 neu Daclo'r Tacle ar 0800 555 111.

Bydd rhaglen Crimewatch i'w gweld ar BBC1 Wales am 9pm nos Fawrth, Mai 1.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.