Snwcer: Tri o Gymry yn rownd yr wyth ola'

Jamie Jones Image copyright PA
Image caption Bydd Jamie Jones yn wynebu Ali Carter yn rownd yr wyth ola'

Mae tri o Gymry wedi sicrhau eu lle yn rownd yr wyth ola ym Mhencampwriaeth Snwcer y Byd yn Sheffield.

Fe fydd Matthew Stevens yn wynebu Ryan Day wrth i Jamie Jones wynebu Ali Carter.

Dyma'r tro cyntaf i Jones gystadlu yn y bencampwriaeth.

Methodd Dominica Dale a sicrhau ei le yn yr Ail Rownd a nos Lun collodd Mark Williams yn erbyn Ronnie O'Sullivan.

Fe fydd O'Sullivan yn wynebu'r cyn-bencampwr Neil Robertson ac fe fydd y gêm arall yn gweld Stephen Hendry yn herio Stephen Maguire.

Caiff rownd yr wyth olaf ei chynnal dros dri cymal, y gorau o 25 ffrâm yn ennill.

Rownd yr Wyth Olaf

Dydd Mawrth

Stephen Hendry v Stephen Maguire (10am)

Ryan Day v Matthew Stevens(10am)

Jamie Jones v Ali Carter (2.30pm)

Ronnie O'Sullivan v Neil Robertson (2.30pm)

Stephen Hendry v Stephen Maguire (7pm)

Ryan Day v Matthew Stevens(7pm)

Dydd Mercher

Jamie Jones v Ali Carter (10am)

Ryan Day v Matthew Stevens (10am)

Stephen Hendry v Stephen Maguire (2.30pm)

Ronnie O'Sullivan v Neil Robertson (2.30pm)

Jamie Jones v Ali Carter (7pm)

Ronnie O'Sullivan v Neil Robertson (7pm)

Straeon perthnasol