BBC Cymru Fyw

Rhybuddion o hyd am lifogydd posib mewn rhannau o Gymru

Published
image copyrightTraffig Cymru
image captionFe achosodd y tywydd drafferthion i yrwyr ar draws Cymru ddydd Sul a dydd Llun

Wedi dyddiau o wyntoedd stormus mae 'na rybudd am lifogydd posib yn dal mewn grym.

Ond wedi'r glaw mawr ddydd Sul mae'r tywydd yn gwella a phedwar rhybudd sy'n bodoli yng Nghymru bore Mawrth.

Mae'r rhybuddion ar Y Ddyfrdwy Isa o Langollen i Gaer; Afonydd Gwy a Mynwy yn Sir Fynwy; Hafren Uchaf ym Mhowys ac Afon Alun o Landegla i'r Orsedd Goch.

Mae disgwyl mwy o law ddydd Mawrth, yn benodol yn ne Cymru.

Dywedodd y Swyddfa Dywydd bod 20mm (0.8 modfedd) o law wedi disgyn yn ne Cymru yn y 12 awr hyd at 4am ddydd Mawrth.

"Mae cyfnodau o law, trwm ac o bosib yn daranllyd, yn bosib yn ne Lloegr a de Cymru ddydd Mawrth," meddai llefarydd.

"Fe fydd y glaw trwm yn gostegu ond fe fydd gwyntoedd cryfion yn bosib ar hyd Cymru."

Oherwydd tywydd stormus dros y penwythnos a dydd Llun fe gafodd nifer o bobl broblemau ar y ffyrdd wrth i goed ddisgyn a llifogydd ac roedd oedi sylweddol ar y cledrau rhwng Llundain a de Cymru.

Roedd hyd at 20,000 o gartrefi yn ne Cymru wedi colli cyflenwad trydan ddydd Sul er eu bod wedi ei adfer ddydd Llun.

Straeon perthnasol

  • Tywydd: Problemau i deithwyr