Galw am ymchwiliad i werthu math o fenthyciadau
- Cyhoeddwyd

Mae Aelod Seneddol yn galw am ymchwiliad i fath arbennig o fenthyciadau sy'n cael eu gwerthu gan fanciau i gwmnïau bach.
Yn ôl yr Aelod Seneddol Ceidwadol, Guto Bebb, mae rhai busnesau eisoes wedi methu, tra bod eraill wedi eu rhoi mewn peryg.
Mae'n amau bod y benthyciadau yma yn cael eu cam-werthu.
Cafodd cwmnïau wybod bod "deilliad y cyfraddau llog" yn debyg iawn i forgais gyda chyfradd benodedig.
Enghraifft o gwmni'n wynebu trafferthion yw un Colin Jones, 48 oed, a oedd yn arfer rhedeg gwesty ar lan y môr yn Llandudno.
Cyfraddau llog
Prynodd y gwesty yn 2007 gyda benthyciad banc o £500,000 ond cafodd ei adfeddiannu yn 2010.
Eglurodd Mr Jones nad oedd yn sylweddoli pan oedd o'n cymryd y benthyciad ei fod yn cymryd bet ar yr hyn a fyddai'n digwydd i gyfraddau llog.
Roedd y benthyciad yn golygu fod y taliadau'n fforddiadwy pan oedd y cyfraddau llog yn uchel.
Ond pan ddechreuodd y cyfraddau llog ostwng yn niwedd 2008, roedd y system yn golygu bod ei daliadau yn mynd yn uwch.
Erbyn i'r gwesty gael ei adfeddiannu roedd Mr Jones yn talu bron i £6,000 bob tri mis.
"Roedd gen i fusnes oedd yn hyfyw ac yn cyflogi pobl, ond mae o wedi mynd rŵan," meddai.
"Rydym wedi ein chwalu ar ôl prynu'r fath beth, rhywbeth na wnes i ofyn amdano, nad oeddwn i ei eisiau nac yn ei ddeall.
"Alla i ddim egluro mewn geiriau, mae wedi bod yn gyfnod anodd, yn hunllef.
"Fe ddaeth fy ngwraig a finnau yn agos at wahanu, roedd y straen arni hi, y plant, y teulu cyfan yn ofnadwy."
'Ergyd i'r economi'
Dywedodd Mr Bebb ei fod yn gwybod am tua 500 o achosion tebyg ar draws y DU a bod 'na effaith wael ar Gymru, gyda 100 o fusnesau yn yr un sefyllfa.
"Mae colli unrhyw fusnes yng Nghymru, yn ergyd i'r economi," meddai.
"Does 'na ddim dwywaith, yn fy marn i, y byddai nifer o fusnesau yn bodoli o hyd oni bai am y cosbau y maen nhw'n eu hwynebu o ganlyniad i werthu'r fath gynnyrch iddyn nhw.
"Mae'n ymddangos i mi bod y cynnyrch yn anaddas ar gyfer y busnesau a dargedwyd.
"Cafodd y cynnyrch ei ddisgrifio fel rhywbeth sydd ddim yn ariannol gymhleth, ond mae o mewn gwirionedd.
"Mae hyn, yn fy marn i, yn cam-werthu."
Er bod nifer o'r prif fanciau wedi eu beirniadu am hyn, maen nhw'n dweud nad ydyn nhw wedi gwneud dim o'i le.
Dywedodd y Royal Bank of Scotland, wnaeth roi'r benthyciad i Mr Jones, bod 'na ganllawiau yn bodoli i sicrhau bod y cynnyrch yn cael ei werthu o fewn y canllawiau.
Mae'n nodi bod yr Ombwdsmon Ariannol wedi adolygu achos Mr Jones ac wedi ffafrio'r banc.
Dywedodd yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol eu bod yn ystyried y mater ac a ddylai unrhyw beth gael ei wneud.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Rhagfyr 2011
- Cyhoeddwyd16 Tachwedd 2011
- Cyhoeddwyd2 Gorffennaf 2011