Bruce Dickinson yn gobeithio creu 1,000 o swyddi
- Cyhoeddwyd

Mae prif leisydd Iron Maiden yn gobeithio creu hyd at 1,000 o swyddi yn ne Cymru ar ôl lansio busnes cynnal a chadw awyrennau.
Wedi'i hyfforddi'n beilot masnachol, bydd Bruce Dickinson yn sefydlu cwmni Cardiff Aviation yn Sain Tathan, Bro Morgannwg.
Mae'r cwmni'n rhentu ar brydles awyrendy 132,000 troedfedd sgwâr gan Lywodraeth Cymru sydd wedi croesawu'r datblygiad.
Dywedodd Mr Dickinson fod gan Gymru gysylltiad hir gyda'r diwydiant awyrennau.
Bydd Sain Tathan, sydd ymhlith pum ardal fenter gafodd eu lansio fis diwetha', yn canolbwyntio ar y diwydiant awyrofod.
Bydd Cardiff Aviation yn cynnal a chadw awyrennau ar gyfer cwmnïau mawr ac annibynnol.
Byddan nhw hefyd yn hyfforddi pobl ac maen nhw'n dweud bod ganddyn nhw ganiatâd i dystio i awyrennau o wledydd fel America.
'Arwydd o hyder'
Mae Gweinidog Busnes Cymru, Edwina Hart, wedi croesawu'r newyddion gan ei ddisgrifio fel "arwydd o hyder" yng nghynlluniau'r llywodraeth i ddatblygu Sain Tathan fel canolfan o arbenigedd yn y diwydiant awyrofod.
"Rwy'n arbennig o falch i glywed bod y cwmni yn awyddus i gyflogi peirianwyr medrus a fu'n gweithio gynt i'r Weinyddiaeth Amddiffyn.
"Bydd Cardiff Aviation yn creu cannoedd o swyddi peirianneg â lefel uchel o sgiliau ac mae cynlluniau ar droed i sefydlu rhaglen brentisiaethau barhaus hefyd wrth i'r busnes dyfu.
"Rydym wedi bod yn cydweithio'n agos gyda Bruce Dickinson a Cardiff Aviation ar y prosiect cyffrous hwn ers peth amser, felly rydym yn falch dros ben bod y gwaith hwnnw wedi dwyn ffrwyth.
"Dyma'r union fuddsoddiad sydd ei angen arnom - mae'n dod ag arian i mewn i'r economi leol ac ar yr un pryd bydd yn hyrwyddo Parc Busnes Awyrofod Sain Tathan a'r Ardal Fusnes Awyrennau yn rhyngwladol."
Dywedodd Mr Dickinson eu bod yn cychwyn y fenter hon "gan ddeall y byddwn ni'n dod â busnes i dde Cymru - rydym yn rhagweld y gallai greu hyd at fil o swyddi o fewn 18 mis, ar sail y diddordeb a'r ymrwymiad gan wneuthurwyr a chwmnïau awyrennau".
"Mae gan dde Cymru draddodiad hir o weithio gyda'r diwydiant awyrennau ac rwyf wrth fy modd fy mod yn gallu chwarae rhan fechan yn parhau'r traddodiad hwnnw."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Ebrill 2012
- Cyhoeddwyd21 Mawrth 2012
- Cyhoeddwyd31 Ionawr 2012
- Cyhoeddwyd22 Ionawr 2012
- Cyhoeddwyd28 Tachwedd 2011
- Cyhoeddwyd9 Tachwedd 2011
- Cyhoeddwyd17 Awst 2011