BBC Cymru Fyw

Terfysgaeth: Arestio dyn yng Nghaerdydd

Published
Mae Heddlu'r Met yn Llundain yn dweud bod dyn 40 oed o Gaerdydd ymhlith saith o bobl gafodd eu harestio ar amheuaeth o droseddau'n ymwneud â therfysgaeth.
Ditectifs o'r adran gwrthderfysgaeth oedd yn rhan o'r cyrch ddydd Mawrth.
Cafodd y saith eu harestio mewn pedwar cyfeiriad gwahanol yng Nghaerdydd, Llundain a Coventry tua 6am.
Maen nhw wedi eu harestio ar amheuaeth o ariannu terfysgaeth.
Maen nhw hefyd yn wynebu cyhuddiad o ddelio gydag arian sydd wedi ei sicrhau trwy drosedd.
Mae'r saith wedi eu cludo i orsaf heddlu yn Llundain.
Roedd cyrch yr heddlu wedi ei drefnu ymlaen llaw ar ôl gwaith cudd-wybodaeth.
Mae'r ymgyrch hefyd yn cynnwys Ymchwilwyr Diogelwch Homeland yn America sy'n ymchwilio i rwydwaith o fewnforio y cyffur khat yn anghyfreithiol.
Mae'r cyffur yn gyfreithiol yn y DU.
Mae yna reolau mwy caeth yn rheoli ei ddefnydd yn yr Unol Daleithiau a Chanada.
Mae ymholiadau yn parhau.