Her rhwng y Cymry, Ryan Day a Matthew Stevens

Ryan Day a Matthew Stevens Image copyright PA
Image caption Mae Ryan Day a Matthew Stevens yn gyfeillion

Cychwynnodd rownd yr wyth ola' ym Mhencampwriaeth Snwcer y Byd wrth i ddau Gymro wynebu ei gilydd.

Wedi'r sesiwn gyntaf mae Ryan Day ar y blaen o ddwy ffrâm yn erbyn Matthew Stevens wedi iddo gael dau rediad o fwy na 100.

Fe fydd yr ail sesiwn yn cychwyn am 7pm nos Fawrth cyn gorffen ddydd Mercher.

Cyn cyrraedd y rownd mae Day, 32 oed o Bontycymer, wedi curo Ding Junhi a Cao Yupeng.

Er ei fod wedi syrthio o'r chweched safle i 35 yn ddiweddar, fe chwaraeodd yn gryfach na Stevens.

Enillodd Stevens, Rhif 14 yn y byd, enillodd y ffrâm gyntaf a'r bedwaredd i fod yn gyfartal ar yr egwyl.

Wedi'r egwyl Day enillodd y tair ffrâm gyntaf cyn i Stevens gipio'r olaf.

Yn y gêm arall fore Mawrth mae'r cyn-bencampwr byd ar saith achlysur, Stephen Hendry, ar ei hôl hi o 7-1 yn erbyn Stephen Maguire.

Matthew Stevens 3-5 Ryan Day (Sesiwn 1)

86-2 (86), 0-101 (100), 14-110 (110), 50-39, 8-93 (80), 28-75, 42-91 (57), 74-44

Amserlen rownd yr Wyth Olaf

Dydd Mawrth

Stephen Hendry v Stephen Maguire (10am)

Ryan Day v Matthew Stevens(10am)

Jamie Jones v Ali Carter (2.30pm)

Ronnie O'Sullivan v Neil Robertson (2.30pm)

Stephen Hendry v Stephen Maguire (7pm)

Ryan Day v Matthew Stevens (7pm)

Dydd Mercher

Jamie Jones v Ali Carter (10am)

Ryan Day v Matthew Stevens (10am)

Stephen Hendry v Stephen Maguire (2.30pm)

Ronnie O'Sullivan v Neil Robertson (2.30pm)

Jamie Jones v Ali Carter (7pm)

Ronnie O'Sullivan v Neil Robertson (7pm)

Straeon perthnasol