12 yn marw bob wythnos o gyflwr prin

ECG Image copyright Other
Image caption Bob wythnos yn y DU mae o leiaf 12 o bobl iach rhwng 14 a 35 oed yn marw oherwydd nam ar y galon oedd ddim wedi cael ei adnabod

Bydd nifer o deuluoedd mewn digwyddiad arbennig yn y Senedd ddydd Mercher i godi ymwybyddiaeth o farwolaethau cardiaidd sydyn ymysg yr ifanc.

Bob wythnos yn y DU mae o leiaf 12 o bobl iach a ffit rhwng 14 a 35 oed yn marw oherwydd nam ar y galon oedd ddim wedi cael ei adnabod.

Yn ôl trefnwyr y digwyddiad, yr elusen Cardiac Risk in the Young (CRY), nid yw 80% o'r rhain wedi arddangos unrhyw symptomau.

Bydd Aelodau Cynulliad yn ymuno â theuluoedd rhai o'r bobl ifanc fu farw yng Nghymru yn y digwyddiad, a ddaw wythnosau wedi i'r pêl-droediwr Fabrice Muamba ddisgyn yn sâl yng nghanol gêm rhwng ei glwb Bolton a Tottenham Hotspur.

Mae'r digwyddiadau ar y cae y noson honno wedi arwain at alwad am fwy o sgrinio'r galon ymysg pobl ifanc - rhywbeth y mae CRY wedi bod yn galw amdano ers ei sefydlu yn 1995.

'Blaenllaw'

Dywedodd prif weithredwr a sefydlydd yr elusen, Alison Cox: "Wrth i nifer yr achosion o farwolaethau cardiaidd sydyn gynyddu, mae'n hanfodol ein bod ni, fel elusen sy'n ceisio codi ymwybyddiaeth, yn siarad gydag Aelodau Cynulliad yng Nghymru.

"Oherwydd digwyddiadau diweddar, mae marwolaeth gardiaidd sydyn wedi bod yn flaenllaw ar dudalennau chwaraeon a iechyd y wasg genedlaethol.

"Ond rhaid i ni gadw'r pwysau, ac ennyn cefnogaeth gan gymaint o Aelodau Seneddol a Chynulliad ag y gallwn ni er mwyn sicrhau ein bod yn gwneud cymaint â phosib i atal teuluoedd eraill rhag profi trasiedïau tebyg."

Mae'r elusen yn dod i Gymru yn gyson er mwyn cynnig profion ECG (electrocardiogram) sy'n gallu adnabod nam ar y galon.

Bydd y sesiynau sgrinio'n cael eu cynnal mewn digwyddiadau arbennig a drefnir gan deuluoedd sydd wedi colli anwyliaid i'r cyflwr, ac mae modd cofrestru diddordeb mewn cael prawf ar wefan yr elusen.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.