Etholiad: Diwrnod olaf ymgyrchu

  • Cyhoeddwyd
Gorsaf BleidleisioFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,
Bydd yr etholiadau lleol yn cael eu cynnal ddydd Iau

Mae ymgeiswyr yn dechrau'r diwrnod olaf o ymgyrchu cyn yr etholiadau lleol ddydd Iau.

Mewn 21 o awdurdodau lleol, bydd cystadlu am dros 1,200 o seddau.

Bydd etholiad ymhob awdurdod lleol yng Nghymru heblaw am Ynys Môn lle mae'r etholiad wedi ei ohirio am flwyddyn wrth i gomisiynwyr a benodwyd gan Lywodraeth Cymru gymryd yr awenau yn dilyn blynyddoedd o gecru gwleidyddol.

Dywedodd y pleidiau gwleidyddol eu bod wedi canolbwyntio ar faterion lleol wrth ymgyrchu.

Ond yn gefndir i'r etholiad mae mis anodd i Lywodraeth y DU, gyda Llafur yn gobeithio adennill tir a gollwyd yn yr etholiadau lleol diwethaf yn 2008.

'Gyrru neges'

Cafodd ymgyrch Llafur hwb mewn arolwg o bleidleiswyr Cymru ddydd Mawrth oedd yn awgrymu eu bod ymhell ar y blaen, ac y gallai'r blaid wneud enillion mawr ddydd Iau.

Er gwaethaf yr hyn mae Llafur yn ei ddisgrifio fel "ymgyrch â'i seiliau yn y gymuned", maen nhw wedi annog pleidleiswyr i yrru neges i'r glymblaid yn San Steffan drwy ddefnyddio eu pleidlais.

Dywedodd yr AC Llafur Vaughan Gething: "Dydw i ddim yn gwadu nac yn ymddiheuro am y ffaith ein bod hefyd wedi trafod y darlun cenedlaethol.

"Yn sicr mae hynny wedi bod yn rhywbeth y mae'r pleidleiswyr wedi ei godi gyda ni ar y stepen drws."

Trethi

Mae'r Ceidwadwyr wedi galw am dreth cyngor is yn ystod eu hymgyrch, ond er mwyn rhewi trethi fe fyddai'n rhaid iddyn nhw ennill grym yn y Cynulliad.

Dywedodd y Gweinidog yn Swyddfa Cymru, David Jones AS, ei fod yn disgwyl i bobl bleidleisio ar faterion lleol yn ystod y "cyfnod anodd yma".

"Dyna beth fydd yn penderfynu canlyniad yr etholiad yma - materion lleol rwy'n siŵr," meddai.

'Gwelliannau'

Neges debyg oedd gan AC y Democratiaid Rhyddfrydol, Aled Roberts, a ddywedodd: "Rydym wedi ceisio cadw'r ymgyrch yn lleol.

"Rydym wedi siarad am welliannau mewn gwasanaethau lleol yn y cynghorau yr ydym naill wedi arwain neu wedi arwain clymblaid."

Bydd ei blaid yn awyddus i ddal Llafur yn ôl yng Nghaerdydd, Abertawe a Wrecsam, awdurdodau sydd wedi bod o dan reolaeth y Democratiaid Rhyddfrydol.

Ond gyda llai o ymgeiswyr nag yn 2008, mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Nick Clegg, wedi cydnabod y bydd yr etholiadau yma yn "anodd".

'Neges bositif'

Mae Plaid Cymru wedi ceisio tawelu disgwyliadau y bydd yr arweinydd newydd, Leanne Wood, yn dod â newid er gwell i'r blaid, gan ddweud bod yr etholiadau yn rhy gynnar yn ei theyrnasiad.

Mae Plaid Cymru'n wynebu brwydrau caled gyda Llafur mewn lleoedd fel Caerffili, awdurdod y bu'n arwain, a Sir Gaerfyrddin lle mae'n ceisio disodli clymblaid rhwng Llafur ac annibynwyr.

Dywedodd yr AC Rhodri Glyn Thomas fod Plaid Cymru wedi bod yn cyhoeddi "negeseuon positif" am eu record yn y cynghorau y bu'n rheoli.