Matthew Stevens yn mynd ar y blaen yn erbyn Ryan Day

Ryan Day a Matthew Stevens Image copyright PA
Image caption Mae Ryan Day a Matthew Stevens yn gyfeillion

Cychwynnodd rownd yr wyth ola' ym Mhencampwriaeth Snwcer y Byd wrth i ddau Gymro wynebu ei gilydd mewn un gêm a thrydydd Cymro mewn un arall.

Wedi dwy sesiwn rhwng Ryan Day a Matthew Stevens, y gŵr o'r gorllewin sydd ar ar y blaen yn erbyn Day.

Y chwaraewr o Bontycymer gafodd y gorau o'r sesiwn gyntaf fore Mawrth, gan sgorio rhediad o dros 100 ddwywaith wrth agor bwlch o 5-3 dros ei wrthwynebydd.

Ond ar ddechrau'r sesiwn nos roedd Stevens ar dân gan gipio bob un o'r wyth ffrâm yn y sesiwn i ysgwyd hyder Ryan Day.

Llygedyn o obaith yn unig sydd gan Day cyn y drydedd sesiwn ddydd Mercher, a Stevens yw'r ffefryn pendant i gyrraedd y rownd gynderfynol bellach.

Annisgwyl

Go brin bod unrhyw un wedi disgwyl gweld enw Jamie Jones yn wyth olaf pencampwriaeth y byd, ond fe gafodd y chwaraewr o gyffiniau Castell-nedd ddechrau boddhaol i'w rownd.

Enillodd Jones gyfanswm o ychydig dros £27,000 y tymor diwethaf ar gylchdaith snwcer y byd - mae eisoes wedi ennill £24,000 am gyrraedd yr wyth olaf yn Sheffield!

Concrwr Judd Trump - Allister Carter oedd ei wrthwynebydd - ac er mai Carter sydd â'r fantais wrth fynd i'r ail a'r drydedd sesiwn ddydd Mercher, doedd Jones yn sicr ddim allan o'i ddyfnder, ac o fewn cyrraedd ar 3-5.

Yn un o gemau eraill dydd Mawrth mae'r cyn-bencampwr byd ar saith achlysur, Stephen Hendry, wedi cael cweir go iawn gan golli yn erbyn Stephen Maguire mewn dwy sesiwn yn unig o 13-2.

Cyhoeddodd Hendry ar ddiwedd y gêm ei fod yn ymddeol o snwcer cystadleuol.

Canlyniadau Dydd Mawrth

Matthew Stevens 11-5 Ryan Day (2 Sesiwn)

Jamie Jones 3-5 Allister Carter (1 Sesiwn)

Stephen Hendry 2-13 Stephen Maguire

Ronnie O'Sullivan 3-5 Neil Robertson

Amserlen rownd yr Wyth Olaf

Dydd Mercher

Jamie Jones v Ali Carter (10am)

Ronnie O'Sullivan v Neil Robertson (10am)

Ryan Day v Matthew Stevens (2.30pm)

Jamie Jones v Ali Carter (7pm)

Ronnie O'Sullivan v Neil Robertson (7pm)

Straeon perthnasol