Matthew Stevens yn y pedwar olaf

Ryan Day a Matthew Stevens Image copyright PA
Image caption Mae Ryan Day a Matthew Stevens yn gyfeillion

Mae Matthew Stevens wedi cyrraedd rownd gynderfynol Pencampwriaeth Snwcer y Byd yn Sheffield wedi iddo guro Ryan Day fore Mercher.

Wedi dwy sesiwn rhwng y ddau Gymro, Stevens oedd ar y blaen o 11-5 yn dilyn sesiwn ysgubol nos Fawrth pan gipiodd bob un o'r wyth ffrâm a chwaraewyd.

Doedd pethau'n ddim gwell i Day fore Mercher, ac fe enillodd Stevens y ddwy ffrâm gyntaf i gwblhau'r fuddugoliaeth o 13-5.

Bydd Stevens yn wynebu naill ai Ronnie O'Sullivan neu Neil Robertson yn y rownd gynderfynol fydd yn dechrau ddydd Iau.

Bydd Jamie Jones yn ceisio ymuno gyda Stevens yn y rownd nesaf pan fydd yn dechrau ail sesiwn ei ornest yn erbyn Allister Carter brynhawn Mercher.

Ar ddiwedd y sesiwn gyntaf ddydd Mawrth, Carter oedd ar y blaen o 5-3.

Canlyniadau Dydd Mercher

Matthew Stevens 13-5 Ryan Day

Straeon perthnasol