BBC Cymru Fyw

Mackay yn gwahardd Twitter a Facebook

Published
image copyrightHuw Evans picture agency
image captionBydd Malky Mackay o Gaerdydd a Sam Allardyce o West Ham United yn mynd benben
Mae rheolwr Clwb Pêl-droed Caerdydd yn gwahardd ei chwaraewyr rhag defnyddio gwefannau cymdeithasol cyn eu gemau ail gyfle yn erbyn West Ham.
Bydd tîm Malky Mackay yn croesawu West Ham i Stadiwm Dinas Caerdydd nos Iau cyn teithio i Lundain ar gyfer yr ail gymal ddydd Llun.
Gwrthododd Mackay â chaniatáu i'w chwaraewyr fynd i gynhadledd newyddion yr wythnos yma, ac mae nawr wedi gwahardd y defnydd o'r gwefannau.

Gwobr fawr

Dywedodd Mackay: "Rwyf am i'r chwaraewyr ganolbwyntio'n llawn ar y gêm, yr ymarfer a'r paratoadau.
"Mae'r sylw i gyd ar hynny a does dim sylw at unrhyw beth arall heblaw byw yn y ffordd orau posib am y saith diwrnod nesaf, oherwydd fe fydd y wobr am wneud hynny yn enfawr."
Cafodd yr Adar Gleision dymor da oedd yn cynnwys ymddangosiad yn rownd derfynol Cwpan Carling yn Wembley.
Cafodd Mackay ei benodi ym mis Mehefin y llynedd yn dilyn ymadawiad Dave Jones, ac fe ddaeth â nifer o chwaraewyr newydd wedi i 12 o garfan y tymor diwethaf adael yr Adar Gleision.
Enillodd Caerdydd gêm gyntaf y tymor hwn oddi cartref yn erbyn West Ham, ac mae Mackay yn gobeithio ailadrodd y gamp yn Stadiwm Dinas Caerdydd nos Iau.
Chwaraeodd Mackay 18 o weithiau i West Ham yn 2004-05 pan enillodd y tîm ddyrchafiad, a dywedodd am y gêm ym mis Awst:
"Pan sgorion ni yn y funud olaf, roedd yn ddiwrnod gwych, ond roedden ni'n gwybod bod llawer iawn o waith i'w wneud.
"Pe bai rhywun wedi dweud bryd hynny y byddai Caerdydd yn rownd derfynol Cwpan Carling ac yn y gemau ail gyfle, fyddwn i wedi derbyn hynny'n falch o ystyried y timau eraill sydd yn y Bencampwriaeth."

'180 munud'

Ond West Ham yw'r ffefrynnau gan iddyn nhw orffen yn drydydd yn y tabl a Chaerdydd yn chweched ac wedi sicrhau eu lle yn y gemau ail gyfle gyda buddugoliaeth yn erbyn Crystal Palace ar ddiwrnod ola'r tymor arferol.
Os fydd Caerdydd yn llwyddo i guro West Ham dros y ddau gymal, fe fyddan nhw'n wynebu naill ai Blackpool neu Birmingham yn y rownd derfynol yn Wembley.
Ond rhaid cyrraedd yno a dywedodd Mackay:
"Mae'n ornest 180 munud, ac rydym yn sylweddoli mai dim ond hanner amser fydd diwedd y gêm gyntaf
"Does dim pwrpas dathlu ar ddiwedd y gêm gyntaf. Mae un arall i ddod ddydd Llun (Mai 7) cyn y bydd y canlyniad wedi ei benderfynnu."

Straeon perthnasol

  • Caerdydd yn cael ail gyfle