BBC Cymru Fyw

Jamie Jones allan

Published
image copyrightPA
image captionCurodd Jones Shaun Murphy yn y rownd gyntaf
Er ymdrech arwrol yn ei flwyddyn gynta ym Mhencampwriaeth Snwcer y Byd yn Sheffield, mae Jamie Jones o Gimla ger Castell-nedd allan.
Ali Carter oedd yn fuddugol o 13-11 yn rownd yr wyth olaf nos Fercher .
Bydd Carter yn herio Stephen Maguire yn y rownd gyn-derfynol.
Enillodd Jones gyfanswm o ychydig dros £27,000 y tymor diwethaf ar gylchdaith snwcer y byd - enillodd £24,000 am gyrraedd yr wyth olaf yn Sheffield!
Fore Mercher fe sicrhaodd Matthew Stevens ei le yn y rownd gynderfynol drwy guro Ryan Day o 13-5.
Fe fydd Stevens yn herio Ronnie O'Sullivan yn y rownd gyn-derfynol wedi i hwnnw guro Neil Robertson 13-10 nos Fercher.
Canlyniadau Dydd Mercher
Matthew Stevens 13-5 Ryan Day
Jamie Jones 11-13 Ali Carter

Straeon perthnasol

  • Snwcer: Tri o Gymry yn rownd yr wyth ola'