BBC Cymru Fyw

Achos Peter Lewis: Cyhuddo dyn o lofruddiaeth

Published
image copyrightOther
image captionBu farw Peter Lewis wedi iddo gael ei drywanu yn ei gartref yng Nghaerdydd
Mae dyn 31 oed wedi ei gyhuddo o lofruddio dyn ag anawsterau dysgu yng Nghaerdydd.
Bu farw Peter Lewis, 68 oed, yn Ysbyty Athrofaol Cymru ar ôl cael ei drywanu unwaith yn ei stumog yng nghyntedd cymunedol tŷ lle oedd ei fflat yn Heol Claude yn ardal Y Rhath.
Cafodd dyn lleol, William Stephen Jones, ei arestio ddydd Llun a'i holi yng Ngorsaf Heddlu Bae Caerdydd.
Mae'n ymddangos gerbron Llys Ynadon Caerdydd.