BBC Cymru Fyw

Damwain car: Anafu cerddwr yn Abertawe

Published
image copyright(C) British Broadcasting Corporation
image captionRoedd y ddamwain tua 2.20pm ddydd Mercher
Mae'r heddlu'n apelio am dystion ar ôl i gerddwr 65 oed gael ei anafu'n ddifrifol ar ôl cael ei daro gan gar yn Abertawe.
Fe ddigwyddodd y ddamwain tua 2.20pm ddydd Mercher yn ardal Heol Mayals.
Dywedodd Heddlu De Cymru fod y dyn wedi dioddef anafiadau difrifol wedi i gar Ford Focus brown ei daro.
Os oes gan unrhyw un wybodaeth, fe ddylai gysylltu gyda'r heddlu ar 01792 456999 neu orsaf heddlu leol ar 101.