Achub marchnad 800 mlwydd oed yn Llanidloes
- Published
Mae pobl fusnes a thrigolion tref yn y Canolbarth wedi achub marchnad sy'n dyddio nôl i'r 13eg ganrif yn dilyn pryderon y byddai'n rhaid iddi gau.
Roedd dyfodol y farchnad yn y fantol wedi i Gyngor Powys drosglwyddo'r cyfrifoldeb i gyngor trefn Llanidloes.
Roedd y farchnad wedi crebachu o tua 40 stondin yn ei hanterth i ddim ond un.
Mae nifer y stondinau wedi cynyddu'n ddiweddar.
Nawr mae pwyllgor lleol, sy'n cynnwys masnachwyr a thrigolion, yn bwriadu ail lansio'r farchnad.
Hysbyseb
Derbyniodd y dref siarter ar gyfer y farchnad ym 1280 ac ers hynny mae'r farchnad wedi ei chynnal yn Stryd y Dderwen Fawr bob dydd Sadwrn.
Mae neuadd farchnad y dref, adeilad pren gafodd ei godi yn yr 17eg ganrif, yn dal yn ei safle gwreiddiol ar waelod Stryd y Dderwen.
Y gred yw mai hon yw'r enghraifft olaf o'i bath yng Nghymru.
Dywedodd aelod o bwyllgor Marchnad Siarter Llanidloes, Dave Cannon: "Bu Cyngor Powys yn rheoli'r farchnad tan y llynedd pan drosglwyddwyd y cyfrifoldeb i gyngor y dref.
"Rhoddodd cyngor y dref hysbyseb yn y papur newydd lleol yn gofyn i bobl gynnig i redeg y farchnad.
"Dangosodd tri neu bedwar o fasnachwyr a thrigolion ddiddordeb a phenderfynon nhw ffurfio grŵp a chydweithio."
Mae gan y pwyllgor naw aelod a hyd at 40 o wirfoddolwyr i helpu gyda'r farchnad.
Dywedodd Mr Cannon fod cynlluniau ar y gweill i gynnal marchnad ffermwyr ddwywaith y mis ac fe fydd un elusen yn gallu cynnal stondin yn rhad ac am ddim bob dydd Sadwrn.
Bydd y farchnad yn cael ei ail-lansio ar Fehefin 16.