Luton 2-0 Wrecsam

  • Cyhoeddwyd
Stuart FleetwoodFfynhonnell y llun, EMPICS
Disgrifiad o’r llun,
Sgoriodd Stuart Fleetwood un gôl gan greu'r llall

Bu'n noson siomedig i Wrecsam ar ôl colli 2-0 i Luton yng nghymal cyntaf rownd gynderfynol gemau ail gyfle Blue Square Bet Premier.

Andre Gray roddodd Luton ar y blaen wrth ergydio wedi pas gan Stuart Fleetwood.

Ac roedd y ddau yn rhan o'r ail gôl hefyd wrth i Fleetwood rwydo wedi pas Gray.

Andy Morrell gafodd cyfle gorau Wrecsam, tra bod Robbie Willmott a Robert Kovacs wedi colli cyfleodd i ymestyn mantais Luton.

Bydd yr ail gymal ddydd Llun.

Cafodd y Dreigiau gyfanswm o 98 pwynt y tymor hwn, ond Fleetwood Town orffennodd ar frig yr adran gan gipio'r un lle awtomatig yn Adran 2 o'r Gynghrair Bêl-droed.

Collodd Wrecsam i Luton yn y gemau ail gyfle y llynedd o gyfanswm o 5-1 dros y ddau gymal.