Caerdydd 0-2 West Ham
- Cyhoeddwyd

Mae mynydd o dasg yn wynebu Caerdydd ar ôl colli adref yn erbyn West Ham yn y cymal cyntaf yng ngemau'r ail gyfle, gyda dwy gôl gan chwaraewr canol cae Cymru Jack Collison.
Peniodd Collison i'r rhwyd wedi gwaith da gan Ricardo Vaz Te ar y chwith.
Rhoddodd Collison ragor o halen ar y briw pan adlamodd ei ergyd oddi ar amddiffynwr i'r rhwyd.
Methodd Kenny Miller sawl cyfle i'r Adar Gleision, ac fe gafodd peniad gan Ben Turner ei glirio oddi ar y llinell.
Bydd angen i Gaerdydd godi'r safon cryn dipyn os ydyn nhw i gamu ymlaen i Wembley i herio Blackpool neu Birmingham i gyrraedd yr uwchgynghrair.
Enillodd Caerdydd gêm gyntaf y tymor hwn oddi cartref yn erbyn West Ham, ac mae Mackay nawr yn gobeithio ailadrodd hynny yn yr ail gymal yn Llundain ddydd Llun.