Matthew Stevens ar ei hôl hi

Ronnie O'Sullivan Image copyright Getty Images

Ronnie O'Sullivan sydd ar y blaen o 5-3 yn erbyn Matthew Stevens wedi sesiwn agoriadol rown gynderfynol Pencampwriaeth Snwcer y Byd yn Sheffield.

Ond galli pethau fod wedi bod yn waeth o lawer i Stevens wrth i'r cyn-bencampwr ar dri achlysur fynd 4-0 ar y blaen ar ddechrau'r sesiwn.

Daeth Stevens yn ôl i gipio'r ddwy nesaf, ond yna fe wnaeth gamgymeriad yn y seithfed i adael i O'Sullivan ennill mantais o 5-2.

Roedd y sesiwn yn eitha siomedig ar y cyfan wrth i'r ddau chwaraewr gael trafferth ymdopi gyda chyflymder y bwrdd newydd gafodd ei osod dros nos ar gyfer y rownd gynderfynol.

Ond roedd hi'n ymddangos bod Stevens yn gwella yn ffrâm ola'r sesiwn wrth iddo gael rhediad o 80 i gadw mewn cysylltiad gydag O'Sullivan.

Bydd y gêm yn ail-ddechrau am 2:30pm ddydd Gwener, ac yn cael ei chwblhau ddydd Sadwrn.

Canlyniadau dydd Iau

Rownd gynderfynol :-

Ronnie O'Sullivan 5-3 Matthew Stevens

Allister Carter 5-3 Stephen Maguire