Prifysgol yn rhoi hwb i gynllun gwerth £10m i adfer y Cae Ras

Clwb Canmlwyddiant y Cae Ras
Image caption Mae'r brifysgol am adfer Clwb Canmlwyddiant y stadiwm.

Mae perchnogion stadiwm Clwb Pêl Droed Wrecsam yn recriwtio cyfarwyddwr datblygu i hybu cynllun atgyweirio gwerth £10 miliwn.

Dywed Prifysgol Glyndŵr fod y swydd yn un hanfodol i sicrhau cyllid i greu "stadiwm o safon ryngwladol" fydd yn cynnwys datblygu terasau'r Kop.

Mae'r brifysgol yn berchen y Cae Ras ers mis Awst y llynedd ac am adfer Clwb Canmlwyddiant y stadiwm.

Bydd y clwb yn cael ei drawsnewid i dafarn ar gyfer myfyrwyr yn ogystal â chyrchfan i gefnogwyr yn dilyn gemau.

'Awyrgylch'

Dywedodd Lynda Powell, cyfarwyddwr rheolaeth a gwasanaethau masnachol campws y brifysgol: "Yn ystod yr 20 mlynedd diwethaf mae pobl wedi sylweddoli y gall stadia chwaraeon gyflawni llawer mwy na chynnal digwyddiadau chwaraeon.

"Mae'r cynllun yn adlewyrchu ein hymrwymiad i wella profiadau myfyrwyr sy'n astudio yn y brifysgol.

"Rydym yn awyddus i gadw'r bar ar agor pan fydd Wrecsam yn chwarae gemau gan ddarparu'r cyfleusterau ac awyrgylch y byddai cefnogwyr y clwb yn eu disgwyl."

Hyd yn hyn nid yw'r brifysgol wedi cyhoeddi enw'r ymgeisydd llwyddiannus ar gyfer swydd cyfarwyddwr datblygu'r stadiwm.

Mae'r swydd yn cynnwys denu'r buddsoddiad angenrheidiol i ddatblygu'r stadiwm gan gynnwys ail-ddatblygu teras y Kop.

Yn ôl y brifysgol byddai'r cynllun hwn yn costio £10 miliwn.

Ym mis Mawrth arwyddodd perchnogion Clwb Pêl-droed Wrecsam, sef Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Wrecsam, drwydded 15 mlynedd gyda'r brifysgol sy'n galluogi'r clwb i barhau i chwarae ar y Cae Ras.

Mae'r stadiwm yn gartref i dîm Crusaders Gogledd Cymru sy'n chwarae eu gemau cartref ym Mhencampwriaeth Rygbi'r Gynghrair ar y Cae Ras.

Yn y cyfamser bu'n noson siomedig i Wrecsam ar ôl colli 2-0 i Luton yng nghymal cyntaf rownd gynderfynol gemau ail gyfle Blue Square Bet Premier.

Bydd yr ail gymal yn cael ei gynnal ar y Cae Ras ddydd Llun.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.