Carthion: Traeth Y Rhyl yn ail agor
- Cyhoeddwyd

Mae'r Cyngor wedi diolch i bobl am eu cydweithrediad
Mae traeth y Rhyl wedi ail agor yn dilyn profion.
Yn gynharach yr wythnos hon cafodd pobl rybudd i beidio â mynd i mewn i'r môr oherwydd bod cyfarpar gorsaf bwmpio'n ddiffygiol.
Dywedodd Asiantaeth yr Amgylchedd bryd hynny fod pwmp wedi torri oherwydd llifogydd yn sgil glaw trwm, ac roedd cynllun brys ar waith a phobl wedi eu rhybuddio i gadw draw.
Ddydd Gwener dywedodd Cyngor Sir Ddinbych fod swyddogion wedi adolygu'r sefyllfa, ac maen nhw wedi diolch i bobl am eu cydweithrediad.