BBC Cymru Fyw

Milwr wedi marw

Published
image copyrightOther
image captionMae'r Gweithgor Iechyd a diogelwch yn ymchwilio i farwolaeth Michael Maguire
Mae milwr wedi marw wedi sesiwn ymarfer yn defnyddio bwledi go iawn yng Nghastellmartin, Sir Benfro, ddydd Mercher.
Dywedodd yr Weinyddiaeth Amddiffyn mai ei enw oedd Michael Maguire ac roedd yn aelod o gatrawd y Gwyddelol Brenhinol.
Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys a'r Gweithgor Iechyd a Diogelwch eu bod yn ymchwilio.
Mae teulu'r milwr wedi cael gwybod a'r crwner wedi ei hysbysu.