Cryptosporidiwm: O leiaf un achos

  • Cyhoeddwyd
CryptosporidiwmFfynhonnell y llun, Not Specified
Disgrifiad o’r llun,
Mae'r paraseit yn gyffredin mewn anifeiliaid fferm ac anwes

Mae swyddogion iechyd yn ymchwilio ar ôl i ddisgybl gael ei daro'n wael gan y clefyd cryptosporidiwm sy'n achosi anhwylder ar y stumog.

Mae'r awdurdodau hefyd yn ymchwilio i bedwar achos posib arall o'r clefyd.

Mae'r disgyblion yn mynychu Ysgol Esgob Llandaf yr Eglwys yng Nghymru yng Nghaerdydd.

"Dyw'r afiechyd fel rheol ddim yn achosi tostrwydd mawr", meddai Dr Gwen Lowe o Iechyd Cyhoeddus Cymru.

"Mae'r rhan fwyaf yn gwella heb driniaeth, ond fe allai achosi salwch mwy difrifol yn y rhai sydd â system imiwnedd gwan. "

Paraseit

Clefyd sy'n achosi dolur rhydd mewn pobl ac anifeiliaid yw cryptosporidiosis.

Mae'n cael ei greu gan baraseit microsgopig Cryptosporidiwm.

Mae'r creadur yn gyffredin mewn anifeiliaid fferm ac anwes ac mae'n cael ei drosglwyddo drwy eu tail.

Mae'n bodoli hefyd mewn lefelau isel iawn bob amser yn yr amgylchedd, ond mae'r lefelau'n llawer uwch yn y gwanwyn, yn enwedig pan mae glaw trwm yn golchi'r paraseit i'r ddaear ac i afonydd a llynnoedd.

Mae symptomau, sy'n gallu ymddangos rhwng 5 a 28 diwrnod, yn cynnwys dolur rhydd, neu symptomau yn ymdebygu i ffliw.