Machynlleth yn dod yn adnabyddus am ei jôcs

Stewart Lee Image copyright Getty Images
Image caption Mae Stewart Lee ymhlith y rhai fydd yn perfformio yn yr ŵyl gomedi

Mae gan Y Gelli ei lyfrau, Aberhonddu ei jazz ac yn awr mae tref arall ym Mhowys yn dod yn adnabyddus am ei jôcs.

Penwythnos yma bydd trydedd ŵyl gomedi Machynlleth.

Mae'r digwyddiad, sydd yn para am dri diwrnod, wedi tyfu'n gyflym dros y ddwy flynedd diwethaf ac mae'n awr yn denu cefnogwyr led led Prydain.

Mae'r rhaglen eleni yn cynnwys Stewart Lee, Chris Corcoran, Arthur Smith, Henning Wehn, Richard Herring a Jon Richardson.

Eleni mae'r ŵyl yn disgwyl denu 2,000 o ymwelwyr, pedair gwaith y nifer a ymwelodd â'r ŵyl yn ei flwyddyn gyntaf.

Dechreuodd ŵyl oherwydd yr awydd i ehangu comedi yng Nghymru i lefydd tu allan i ddinasoedd mawr Caerdydd, Abertawe a Chasnewydd.

Dywedodd trefnydd yr ŵyl, Henry Widdicombe, bod Machynlleth yn lleoliad sydd yn 'drysor cudd'.

"Rydym yn freintiedig i allu defnyddio Canolfan Owain Glyndŵr fel lleoliad.

"Mae'r ffaith ein bod yn cael mynd yno a chynnal comedi, lle bu senedd Cymru gynt, yn rhyfeddol.

Image caption Henry Widdicombe yw trefnydd yr ŵyl ym Machynlleth

Rheolwr cynorthwyol caffi'r Quarry yw Jane Page, ac mae hi'n meddwl bod poblogrwydd yr ŵyl ar gynnydd.

"Mae pobl yn heidio i'r dref i'w weld. Mae'n beth mawr i'r dref," meddai.

Bydd dyn lleol, Mike Parker, yn perfformio act gomedi yn seiliedig ar Fachynlleth yn Y Plas prynhawn Sadwrn yma.

"Rwyf yn edrych ymlaen er fy mod braidd yn nerfus," meddai.

"Dyma'r tro gyntaf i mi wneud act gomedi mewn 12 mlynedd.

"Dwi'n gwneud hyn y ffordd anodd. Dwi wedi penderfynu ysgrifennu sioe am Fachynlleth a byddaf yn ei berfformio ym Machynlleth.

"Dwi wedi byw ger Machynlleth am 12 mlynedd er nad wyf yn wreiddiol o'r dref ac mae'n bosib y byddaf yn gorfod rhoi fy nhŷ ar werth erbyn dydd Llun!"

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.