Morgannwg v Essex

Logo Morgannwg Image copyright Other

Yn erbyn y disgwyl mae'n edrych fel bod batwyr Morgannwg wedi sicrhau gem gyfartal yn y gêm bencampwriaeth yn Stadiwm Swalec ,Caerdydd.

Fe wnaeth Essex wedi sgorio 166-9 yn eu hail fatiad.

Roedd hynny'n golygu y bydd angen i Forgannwg sgorio 238 yn eu hail fatiad er mwyn sicrhau buddugoliaeth.

Ond buddugoliaeth i Essex oedd yn edrych yn fwy tebygol pe bai nhw'n llwyddo i gwared ar fatwyr Morgannwg.

Ond am 6.20 pm ddydd Sadwrn roedd Morgannwg wedi sgorio 99-5 gyda naw pelawd yn weddill.

Ddydd Gwener er gwaetha ymdrechion Stewart Walters wnaeth daro 69, roedd batwyr Morgannwg allan am 187, 72 o rediadau y tu ôl i fatiad cyntaf Essex.

Ni fu unrhyw chwarae ddydd Iau oherwydd glaw a golau gwael.

Pencampwriaeth y Siroedd - Sgôr ddiweddaraf

Morgannwg v. Essex - Stadiwm Swalec, Caerdydd:-

Essex(batiad cyntaf) - 259 am 9 wiced

Morgannwg 187- i gyd allan

Essex (ail fatiad) - 166-9 (46 pelawd)

Morgannwg 99 -5 (41 pelawd)

3.45 pm dydd Sadwrn

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.