O'Sullivan ar y blaen

Ronnie O'Sullivan Image copyright Getty Images

Ronnie O'Sullivan sydd ar y blaen o 11-5 yn erbyn Matthew Stevens wedi sesiwn agoriadol rownd gynderfynol Pencampwriaeth Snwcer y Byd yn Sheffield.

Roedd O'Sullivan 5-3 ar ôl y sesiwn gyntaf.

Er i Stevens daro nôl drwy ennill dwy ffram gyntaf yr ail sesiwn - gêm O'Sullivan oedd hi wedyn.

Fe wnaeth o ddau doriad o 100, a hefyd sgorio 98, 90, 62 a 61 wrth ennill chwe ffrâm yn olynol.

Bydd y gêm yn cael ei chwblhau ddydd Sadwrn.

Canlyniadau dydd Gwener

Rownd gynderfynol :-

Ronnie O'Sullivan 11-5 Matthew Stevens